Llyfr Lefiticus 6:18
Pob gwrryw o blant Aaron a fwyttânt hyn: deddf dragywyddol fydd yn eich cenhedlaethau am aberthau tanllyd yr Arglwydd; pob un a gyffyrddo â hwynt, fydd sanctaidd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
19¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
Cross References
Exodus 29:37Saith niwrnod y gwnei gymmod dros yr allor, ac y sancteiddi hi: felly yr allor fydd sanctaidd: pob peth a gyffyrddo â’r allor, a sancteiddir.
Leviticus 4:3Os offeiriad enneiniog a becha yn ol pechod y bobl; offrymmed, dros ei bechod a wnaeth, fustach ieuangc perffeith-gwbl, yn aberth dros bechod i’r Arglwydd.
Leviticus 4:33A gosoded ei law ar ben yr aberth dros bechod, a lladded hi dros bechod yn y lle y lleddir y poeth-offrwm.
Leviticus 6:27Beth bynnag a gyffyrddo â’i gig ef, a fydd sanctaidd: a phan daeneller o’i waed ef ar ddilledyn, golch yn y lle sanctaidd yr hyn y taenellodd y gwaed arno.
Leviticus 21:21Na nesâed un gwr o had Aaron yr offeiriad, yr hwn y byddo anaf arno, i offrymmu ebyrth tanllyd yr Arglwydd; anaf sydd arno; na nesâed i offrymmu bara ei Dduw.
Numbers 18:10O fewn y cyssegr sanctaidd y bwyttêi ef; pob gwrryw a’i bwytty ef: cyssegredig fydd efe i ti.