Llyfr Lefiticus 6
1Cyfraith y pech-offrwm. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
2Os pecha dyn, a gwneuthur camwedd yn erbyn yr Arglwydd, a dywedyd celwydd wrth ei gymmydog am yr hyn a rodded atto i’w gadw, neu am yr hyn y rhoddes efe ei law, neu yn yr hyn trwy drawsder a ddygodd efe, neu yn yr hyn y twyllodd ei gymmydog;
3Neu os cafodd beth gwedi ei golli, a dywedyd celwydd am dano, neu dyngu yn anudon; am ddim o’r holl bethau a wnelo dyn, gan bechu ynddynt:
4Yna, am iddo bechu, a bod yn euog, bydded iddo roddi yn ei ol y trais a dreisiodd efe, neu y peth a gafodd trwy dwyll, neu y peth a adawyd i gadw gyd âg ef, neu y peth wedi ei golli a gafodd efe,
5Neu beth bynnag y tyngodd efe anudon am dano; taled hynny erbyn ei ben, a chwaneged ei bummed ran atto: ar y dydd yr offrymmo dros gamwedd, rhodded ef i’r neb a’i pïau.
6A dyged i’r Arglwydd ei offrwm dros gamwedd, hwrdd perffeith-gwbl o’r praidd, gyd â’th bris di, yn offrwm dros gamwedd, at yr offeiriad.
7A gwnaed yr offeiriad gymmod drosto ger bron yr Arglwydd: a maddeuir iddo, am ba beth bynnag a wnaeth, i fod yn euog o hono.
8¶ Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
9Gorchymyn i Aaron, ac i’w feibion gan ddywedyd, Dyma gyfraith y poeth-offrwm: (poeth-offrwm yw, o herwydd y llosgi ar yr allor ar hyd y nos hyd y bore, a thân yr allor a gynneuir arni.)
10Gwisged yr offeiriad hefyd ei lïein-wisg am dano, a gwisged lodrau llïan am ei gnawd, a choded y lludw lle yr ysodd y tân y poeth-aberth ar yr allor, a gosoded ef ger llaw yr allor.
11A dïosged ei wisgoedd, a gwisged ddillad eraill, a dyged allan y lludw i’r tu allan i’r gwersyll, i le glân.
12A chynneuer y tân sydd ar yr allor arni; na ddiffodded: ond llosged yr offeiriad goed arni bob bore; a threfned y poeth-offrwm arni, a llosged wêr yr aberth hedd arni.
13Cynneuer y tân bob amser ar yr allor; na ddiffodded.
14¶ Dyma hefyd gyfraith y bwyd-offrwm. Dyged meibion Aaron ef ger bron yr Arglwydd, o flaen yr allor:
15A choded o hono yn ei law o beilliaid y bwyd-offrwm, ac o’i olew, a’r holl thus yr hwn fydd ar y bwyd-offrwm; a llosged ei goffadwriaeth ef ar yr allor, yn arogl peraidd i’r Arglwydd.
16A’r gweddill o hono a fwytty Aaron a’i feibion: yn groyw y bwyttêir ef: yn y lle sanctaidd o fewn cynteddfa pabell y cyfarfod y bwyttânt ef.
17Na phober ef trwy lefain. Rhoddais ef yn rhan iddynt o’m haberthau tanllyd: peth sancteiddiolaf yw hyn, megis yr aberth dros bechod, a’r aberth dros gamwedd.
18Pob gwrryw o blant Aaron a fwyttânt hyn: deddf dragywyddol fydd yn eich cenhedlaethau am aberthau tanllyd yr Arglwydd; pob un a gyffyrddo â hwynt, fydd sanctaidd.
19¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
20Dyma offrwm Aaron a’i feibion, yr hwn a offrymmant i’r Arglwydd, ar y dydd enneinier ef. Degfed ran ephah o beilliaid yn fwyd-offrwm gwastadol, ei hanner y bore, a’i hanner brydnawn.
21Gwneler ef trwy olew mewn padell: yna y dygi ef i mewn wedi ei grasu; ac offrymma ddarnau y bwyd-offrwm wedi ei grasu, yn arogl peraidd i’r Arglwydd.
22A’r offeiriad o’i feibion ef, yr hwn a enneinir yn ei le ef, gwnaed hyn, trwy ddeddf dragywyddol: llosger y cwbl i’r Arglwydd.
23A phob bwyd-offrwm dros yr offeiriad a fydd wedi ei losgi oll: na fwyttâer ef.
24¶ Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
25Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion, gan ddywedyd, Dyma gyfraith yr aberth dros bechod. Yn y lle y lleddir y poeth-offrwm, y lleddir yr aberth dros bechod ger bron yr Arglwydd: sancteiddiolaf yw efe.
26Yr offeiriad a’i hoffrymmo dros bechod, a’i bwytty: yn y lle sanctaidd y bwyttêir ef, y’nghynteddfa pabell y cyfarfod.
27Beth bynnag a gyffyrddo â’i gig ef, a fydd sanctaidd: a phan daeneller o’i waed ef ar ddilledyn, golch yn y lle sanctaidd yr hyn y taenellodd y gwaed arno.
28A thorrer y llestr pridd y berwer ef ynddo: ond os mewn llestr pres y berwir ef, ysgwrier a golcher ef mewn dwfr.
29Bwyttâed pob gwrryw ym mysg yr offeiriaid ef: sancteiddiolaf yw efe.
30Ac na fwyttâer un offrwm dros bechod, yr hwn y dyger o’i waed i babell y cyfarfod, i wneuthur cymmod yn y lle sanctaidd; ond llosger mewn tân.