Llyfr Lefiticus 6:20
Dyma offrwm Aaron a’i feibion, yr hwn a offrymmant i’r Arglwydd, ar y dydd enneinier ef. Degfed ran ephah o beilliaid yn fwyd-offrwm gwastadol, ei hanner y bore, a’i hanner brydnawn.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
19¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
Cross References
Exodus 29:2A bara croyw, a theisennau croyw wedi eu cymmysgu âg olew, ac afrllad croyw wedi eu hiro âg olew: o beilliaid gwenith y gwnei hwynt.
Leviticus 2:1Halen y bwyd-offrwm. Pan offrymmo dyn fwyd-offrwm i’r Arglwydd, bydded ei offrwm ef o beilliaid; a thywallted olew arno, a rhodded thus arno.
Leviticus 5:11¶ Ac os ei law ni chyrhaedd ddwy durtur, neu ddau gyw colommen; yna dyged yr hwn a bechodd ei offrwm o ddegfed ran ephah o beilliaid yn aberth dros bechod: na osoded olew ynddo, ac na rodded thus arno; canys aberth dros bechod yw.
Numbers 18:26Llefara hefyd wrth y Lefiaid, a dywed wrthynt, Pan gymmeroch gan feibion Israel y degwm a roddais i chwi yn etifeddiaeth oddi wrthynt; yna offrymmwch o hynny offrwm dyrchafael i’r Arglwydd, sef degwm o’r degwm.
Numbers 28:10Dyma boeth-offrwm pob Sabbath, heb law y poeth-offrwm gwastadol, a’i ddïod-offrwm.
Hebrews 7:27Yr hwn nid yw raid iddo beunydd, megis i’r offeiriaid hynny, offrymu aberthau yn gyntaf dros ei bechodau ei hun, ac yna dros yr eiddo’r bobl: canys hynny a wnaeth efe unwaith, pan offrymodd efe ef ei hun.