Yr Efengyl yn ôl Luc 1:15
Canys mawr fydd efe yng ngolwg yr Arglwydd, ac nid yf na gwin na diod gadarn; ac efe a gyflawnir o’r Ysbryd Glân, ie, o groth ei fam.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
14A bydd iti lawenydd a gorfoledd; a llawer a lawenychant am ei enedigaeth ef.
16A llawer o blant Israel a dry efe at yr Arglwydd eu Duw.
Read all of Yr Efengyl yn ôl Luc 1
Cross References
Genesis 12:2A mi a’th wnaf yn genhedlaeth fawr, ac a’th fendithiaf, mawrygaf hefyd dy enw; a thi a fyddi yn fendith.
Numbers 6:2Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ymneillduo gwr neu wraig i addaw adduned Nazaread, i ymneillduo i’r Arglwydd:
Joshua 4:14¶ Y dwthwn hwnnw yr Arglwydd a fawrhaodd Josua yng ngolwg holl Israel; a hwy a’i hofnasant ef, fel yr ofnasant Moses, holl ddyddiau ei einioes.
1 Chronicles 17:8A bûm gyda thi, i ba le bynnag y rhodiaist, torrais ymaith hefyd dy holl elynion o’th flaen, a gwneuthum enw i ti megis enw y gwŷr mawr sydd ar y ddaear. º
Psalms 22:9Ti a’u gwnei hwynt fel ffwrn danllyd yn amser dy lid: yr ARGLWYDD yn ei ddicllonedd a’u llwnc hwynt, a’r tân a’u hysa hwynt.
Zechariah 9:15ARGLWYDD y lluoedd a'u hamddiffyn hwynt: a hwy a ysant, ac a ddarostyngant gerrig y dafl; yfant, a therfysgant megis mewn gwin, a llenwir hwynt fel meiliau, ac fel conglau yr allor.