Yr Efengyl yn ôl Luc 10:2
Am hynny efe a ddywedodd wrthynt, Y cynhaeaf yn wir sydd fawr, ond y gweithwyr yn anami: gweddïwch gan hynny ar Arglwydd y cynhaeaf, am ddanfon allan weithwyr i’w gynhaeaf.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
3Ewch: wele, yr wyf fi yn eich danfon chwi fel wyn ymysg bleiddiaid.
Read all of Yr Efengyl yn ôl Luc 10
Cross References
Numbers 11:17Canys disgynnaf, a llefaraf wrthyt yno: a mi a gymmeraf o’r yspryd sydd arnat ti, ac a’i gosodaf arnynt hwy; felly y dygant gyd â thi faich y bobl, fel na ddygech di ef yn unig.
1 Kings 18:22Yna y dywedodd Eleias wrth y bobl, Myfi fy hunan wyf yn fyw o broffwydi yr ARGLWYDD; ond proffwydi Baal ydynt bedwar cant a dengwr a deugain. º
Jeremiah 3:15Ac a roddaf i chwi fugeiliaid wrth fodd fy nghalon, y rhai a’ch porthant chwi a gwybodaeth, ac a deall.
Zechariah 11:5Y rhai y mae eu perchenogion yn eu lladd, heb dybied eu bod yn euog; a’u gwerthwyr a ddywedant, Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, am fy nghyfoethogi; a'u bugeiliaid nid arbedant hwynt.
Matthew 9:36¶ A phan welodd efe y torfeydd, efe a dosturiodd wrthynt, am eu bod wedi blino, a’u gwasgaru, fel defaid heb ganddynt fugail.