Llyfr Numeri 11:17
Canys disgynnaf, a llefaraf wrthyt yno: a mi a gymmeraf o’r yspryd sydd arnat ti, ac a’i gosodaf arnynt hwy; felly y dygant gyd â thi faich y bobl, fel na ddygech di ef yn unig.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 17:3Yna y syrthiodd Abram ar ei wyneb; a llefarodd Duw wrtho ef, gan ddywedyd,
Genesis 18:20Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd, Am fod gwaedd Sodom a Gomorrah yn ddirfawr, a’u pechod hwynt yn drwm iawn;
Exodus 18:22A barnant hwy y bobl bob amser: ond dygant bob peth mawr attat ti, a barnant eu hun bob peth bychan: felly yr ysgafnhêi arnat dy hun, a hwynt-hwy a ddygant y baich gyd â thi.
Exodus 19:20A’r Arglwydd a ddisgynnodd ar fynydd Sinai, ar ben y mynydd: a galwodd yr Arglwydd Moses i ben y mynydd; a Moses a aeth i fynu.
Numbers 7:89Ac fel yr oedd Moses yn myned i babell y cyfarfod i lefaru wrth Dduw; yna efe a glywai lais yn llefaru wrtho oddi ar y drugareddfa, yr hon oedd ar arch y dystiolaeth, oddi rhwng y ddau gerub, ac efe a ddywedodd wrtho.
Numbers 12:5Yna y disgynodd yr Arglwydd y’ngholofn y cwmmwl, ac a safodd wrth ddrws y babell, ac a alwodd Aaron a Miriam. A hwy a aethant allan ill dau.