Yr Efengyl yn ôl Luc 13:35
Wele, eich tŷ a adewir i chwi yn anghyfannedd. Ac yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych, Ni welwch fi, hyd oni ddêl yr amser pan ddywedoch, Bendigedig yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Yr Efengyl yn ôl Luc 13
Cross References
Leviticus 26:31A gwnaf eich dinasoedd yn anghyfannedd, ac a ddinystriaf eich cyssegroedd, ac ni aroglaf eich aroglau peraidd.
Isaiah 5:5Ac yr awr hon mi a hysbysaf i chwi yr hyn a wnaf i’m gwinllan: tynnaf ymaith ei chae, fel y porer hi, torraf ei magwyr, fel y byddo hi yn sathrfa;
Isaiah 52:7Mor weddaidd ar y mynyddoedd; yw traed yr hwn sydd yn efengylu, yo cyhoeddi heddwch; a’r hwn sydd yn’ mynegi daioni, yn cyhoeddi iachawdws* iaeth; yn dywedyd wrth Seion, Dy DDUW di sydd yn teyrnasu. º
Jeremiah 22:5Eithr oni wrandewch y geiriau hyn, i mi fy him y tyngaf, medd yr ARGLWYDD, y bydd y tŷ hwn yn anghyfannedd. º
Hosea 3:4Canys llawer o ddyddiau yr erys meibion Israel heb frenin, a heb dywysog, a heb aberth, a heb ddelw, a heb effod, a heb deraffim.