Yr Efengyl yn ôl Luc 13
1A yr oedd yn bresennol y cyfamser hwnnw rai yn mynegi iddo am y Galileaid, y rhai y cymysgasai Peilat en gwaed ynghyd a’u haberthan.
2A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrthynt, Ydych chwi yn tybied fod y Galileaid hyn yn bechadnriaid mwy na’t holl Galileaid, am iddynt ddioddef y cyfryw bethau?
3Nac oeddynt, meddaf i chwi; eithTi onid edifarhewch, chwi a ddifethir cS. yn yr un modd.
4Neu’r deunaw hynny ar y rhai y syrthiodd y twr yn Siloam, ac a’u lladdodd hwynt: a ydych chwi yn tybied eu bod hwy yn bechaduriaid mwy na’r holl ddynion oedd yn cyfanheddu yn Jerwsalem?
5Nac oeddynt, medrf- K chwi: eithr, onid edifarhp ddifethir oll yn w i™ niodd.
6Ac efe a ddywedodd y ddameg hon; Yr oedd gan un ffigysbren wedi ei blannu yn ei winllan; ac efe a ddaeth i geiste ffrwyth arno, ac nis cafodd.
7Yna efe a ddywedodd wrth y gwia" llannydd, Wele, tair blynedd yr ydwyf ytt dyfod, gan geisio ffrwyth ar y ffigysbreo hwn; ac nid ydwyf yn cael dim: tor ef i lawr; paham y fflae efe yn diffrwytho’r tir?
8Ond efe gan ateb a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gad ef y flwyddyn hon hefyd, hyd oni ddarffo i mi gloddio o’i amgyleh, a bwrw tail:
9Ac os dwg efe ffrwyth, da: onid t, gwedi hynny tor ef i lawr.
10Ac yr oedd efe yn dysgu yn un oft synagogau ar y Saboth.
11Ac weic, yr oedd gwraig ac ynddi ysbryd gwendid ddeunaw mlynedd, ac oedd wedi cydgrymu, ac ni allai hi mewn modd yn y byd ymumoni.
12Pan welodd yr Iesu hon, efe a’i gal-wodd hi ato, ac a ddywedodd wrthi. Ha wraig, rhyddhawyd di oddi wrth dy wendid.
13Ac efe a roddes ei ddwylo arni: ac yn ebrwydd hi a unionwyd, ac a ogoneddodd Dduw.
14A’r archsynagogydd a atebodd yn ddicllon, am i’r Iesu iacháu ar y Saboth, ac a ddywedodd wrth y bobl, Chwe diwrnod sydd, yn y rhai y dylid gweithfo: ar y rhai hyn gan hynny deuwch, a iachaer chwi: ac nid ar y dydd Saboth.
15Am hynny yr Arglwydd a’i hatebodd ef, ac a ddywedodd, O ragrithiwr, oni ollwng pob un ohonoch ar y Saboth ei ych neu ei asyn o’r preseb, a’i arwain i’r dwfr?
16Ac oni ddylai hon, a hi yn ferch i Abraham, yr hon a rwymodd Satan, wete, ddeunaw mlynedd, gael ei rhyddhau o’r rhwym hwn ar y dydd Saboth?
17Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn, ei holl wrthwynebwyr ef a gywilyddiasant: a’r holl bobl d lawen-ychasanr am yr holl bethau gogoneddils a wneid ganddo.
18Ac efe a ddywedodd, I ba beth y mae tcyrnas Dduw yn debyg? ac i ba beth y cyffelybaf hi?
19Tcbyg yw i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymerodd dya, ac a’i heuodd yrt ei ardd; ac efe a gynyddodd, ac a aeth ytt bren mawr, ac adar yr awyr a nythasant yn ei ganghennau ef.
20A thrachefn y dywedodd, I ba beth y cyffelybaf deyrnas Dduw?
21Cyffelyb yw i surdoes, yr hwn a gymerodd gwraig, ac a’i cuddiodd mewn tri mesur o flawd, hyd oni surodd y cwbl oll.
22Ac efe a dramwyodd trwy ddinasoedd a threfi, gan athrawiaethu, ac ymdeithio tua Jerwsalem.
23A dywedodd un wrtho, Ar glwydd, ai ychydig yw y rhai cadwedig? Ac efe a ddywedodd wrthynt,
24Ymdrechwch am fyned i mewn trwy’r porth cyfyng: canys llawer, meddaf i chwi, a geisiant fyned i mewn, ac nis gallant.
25Gwedi cyfodi gŵr y tŷ, a chau’r drws, a dechrau ohonoch sefyll oddi allan, a churo’r drws, gan ddywedyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni; ac iddo yntau ateb a dywedyd wrthych, Nid adwaen ddim ohonoch o ba le yr ydych:
26Yna y dechreuwch ddywedyd, Ni a fwytasom ac a yfasom yn dy wydd di, â thi a ddysgaist yn ein heolydd ni.
27Ac efe a ddywed, Yr wyfyn dywedyd i chwi, Nid adwaen chwi o ba le yr ydych": ewch ymaith oddi wrthyf, chwi holl weithredwyr anwiredd.
28Yno y bydd wylofain a rhincian dannedd, pan weloch Abraham, ac Isaac, a Jacob, a’r holl broffwydi, yn nheyrnas Dduw, a chwithau wedi eich bwrw allan.
29A daw rhai o’r dwyrain, ac o’r gorllewin, ac o’r gogledd, ac o’r deau, ac a eisteddant yn nheyrnas Dduw.
30Ac wele, olaf ydyw’r rhai a fyddant flaenaf, a blaenaf ydyw’r rhai a fyddant olat.
31Y dwthwn hwnnw y daeth ato ryw Phariseaid, gan ddywedyd wrtho, DOS allan, a cherdda oddi yma: canys y mae Herod yn ewyllysio dy ladd di.
32Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, a dywedwch i’r cadno hwnnw, Wele, yr wyf yn bwrw allan gythreuliaid, ac yn iacháu heddiw ac yfory, a’r trydydd dydd y’m perffeithir.
33Er hynny rhaid i mi ymdaith heddiw ac yfory, a thrennydd: canys ni all fod y derfydd am broffwyd allan o Jerwsalem.
34O Jerwsalem, Jerwsalem, yr hon wyt yn lladd y proffwydi, ac yn llabyddio’r rhai a anfonir atat: pa sawl gwaith y mynaswn gasglu dy blant ynghyd, y modd y casgl yr iar ei chywion dan ei hadenydd, ac nis mynnech!
35Wele, eich tŷ a adewir i chwi yn anghyfannedd. Ac yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych, Ni welwch fi, hyd oni ddêl yr amser pan ddywedoch, Bendigedig yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd.