Yr Efengyl yn ôl Luc 22:43
Ac angel o’r nef a ymddangosodd iddo, yn ei nerthu ef.
Beibl (1620)
In The King James Version
And there appeared an angel unto him from heaven, strengthening him.
In Context
Read all of Yr Efengyl yn ôl Luc 22
Cross References
Job 4:3Wele, ti a ddysgaist lawer, ac a gryfheaist ddwylo wedi llaesu.
Daniel 10:16Ac wele, tebyg i ddyn a gyffyrddodd â’m gwefusau: yna yr agorais fy safn, ac y lleferais, ac y dywedais wrth yr hwn oedd yn sefyll ar fy nghyfer, O fy arglwydd, fy ngofidiau a droesant arnaf gan weledigaeth, ac nid ateliais nerth.
Matthew 4:6Ac a ddywedodd wrtho, Os mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr; canys ysgrifenwyd, Y rhydd efe orchymyn i'w angylion am danat; a hwy a'th ddygant yn eu dwylo, rhag taro ohonot un amser dy droed wrth garreg.
Matthew 26:53A ydwyt ti yn tybied nas gallaf yr awr hon ddeisyf ar fy Nhad, ac efe a rydd yn y fan i mi fwy na deuddeg lleng o angylion?
Luke 22:32Eithr mi a weddïais drosot, na ddiffygiai dy ffydd di: tithau pan y’th droer, cadarnha dy frodyr.
1 Timothy 3:16Ac yn ddi-ddadl, mawr yw dirgelwch duwioldeb; Duw a ymddangosodd yn y cnawd, a gyfiawnhawyd yn yr Ysbryd, a welwyd gan angylion, a bregethwyd i'r Cenhedloedd, a gredwyd iddo yn y byd, a gymerwyd i fyny mewn gogoniant.