Llyfr Malachi 1:2
Hoffais chwi, medd yr ARGLWYDD: a chwi a ddywedwch, Ym mha beth yr hoffaist ni? Onid brawd oedd Esau i Jacob? medd yr ARGLWYDD: eto Jacob a hoffais,
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
1Baich gair yr ARGLWYDD at Israel trwy law Malachi.
Cross References
Genesis 25:23A’r Arglwydd a ddywedodd wrthi hi, Dwy genedl sydd yn dy groth di, a dau fath ar bobl a wahenir o’th fru di; a’r naill bobl fydd cryfach na’r llall, a’r hynaf a wasanaetha’r ieuangaf.
Genesis 25:26Ac wedi hynny y daeth ei frawd ef allan, a’i law yn ymaflyd yn sawdl Esau: a galwyd ei enw ef Jacob. Ac Isaac oedd fab tri ugeinmlwydd pan anwyd hwynt.
Genesis 27:33Ac Isaac a ddychrynodd â dychryn mawr iawn, ac a ddywedodd, Pwy? pa le mae yr hwn a heliodd helfa, ac a’i dug i mi, a mi a fwytteais o’r cwbl cyn dy ddyfod, ac a’i bendithiais ef? bendigedig hefyd fydd efe.
Genesis 28:13Ac wele yr Arglwydd yn sefyll arni: ac efe a ddywedodd, Myfi yw Arglwydd Dduw Abraham dy dad, a Duw Isaac; y tir yr wyt ti yn gorwedd arno, i ti y rhoddaf ef, ac i’th had.
Genesis 48:4Dywedodd hefyd wrthyf, Wele, mi a’th wnaf yn ffrwythlawn, ac a’th amlhâf, ac yn dyrfa o bobloedd y’th wnaf, a rhoddaf y tir hwn i’th had di ar dy ol di, yn etifeddiaeth dragywyddol.
Deuteronomy 7:6Canys pobl sanctaidd ydwyt ti i’r Arglwydd dy Dduw: yr Arglwydd dy Dduw a’th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo ei hun, o’r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear.