Llyfr Malachi 3:5
A mi a nesâf atoch chwi i farn; a byddaf dyst cyflym yn erbyn yr hudolion ac yn erbyn y godinebwyr, ac yn erbyn yr anudonwyr, ac yn erbyn camatalwyr cyflog y cyflogedig, a'r rhai sydd yn gorthrymu y weddw, a'r amddifad, a’r dieithr, ac heb fy ofni i, medd ARGLWYDD y lluoedd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
6Canys myfi yr ARGLWYDD ni’m newidir; am hynny ni ddifethwyd chi, meibion Jacob.
Cross References
Genesis 42:18Ac ar y trydydd dydd y dywedodd Joseph wrthynt, Gwnewch hyn, fel y byddoch fyw: ofni Duw yr wyf fi.
Exodus 18:21Ac edrych dithau allan o’r holl bobl am wŷr nerthol, yn ofni, Duw, gwŷr geirwir, yn casâu cybydd-dod; a gosod y rhai hyn arnynt hwy, yn dywysogion ar filoedd, yn dywysogion ar gannoedd, ac yn dywysogion ar ddegau a deugain, ac yn dywysogion ar ddegau.
Exodus 22:20¶ Lladder yn farw a abertho i dduwiau, onid i’r Arglwydd yn unig.
Leviticus 19:13¶ Na cham-atal oddi wrth dy gymmydog, ac nac yspeilia ef: na thriged cyflog y gweithiwr gyd â thi hyd y bore.
Leviticus 20:10¶ A’r gwr a odinebo gyd â gwraig gwr arall, sef yr hwn a odinebo gyd â gwraig ei gymmydog, lladder yn farw y godinebwr a’r odinebwraig.
Deuteronomy 5:11Na chymmer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer: canys nid dïeuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymmero ei enw ef yn ofer.