Llyfr Malachi 3:4
Yna y bydd melys gan yr ARGLWYDD offrwm Jwda a Jerwsalem, megis yn y dyddiau gynt, ac fel y blynyddoedd gynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
1 Chronicles 15:26A phan gynorthwyodd Duw y Lefiaid oedd yn dwyn arch cyfamod yr ARGLWYDD, hwy a offrymasant saith o fustych, a saith o hyrddod. º
1 Chronicles 21:26Ac yno yr adeiladodd Dafydd allor i’r ARGLWYDD, ac a offrymodd boethoffrymau, ac ebyrth hedd, ac a alwodd ar yr ARGLWYDD; ac efe a’i hatebodd ef o’r nefoedd trwy dân ar allor y poethoffrwm. º
2 Chronicles 1:6A Solomon a aeth i fyny yno at yr allor bres, gerbron yr ARGLWYDD, yr hon oedd ym mhabell y cyfarfod, a mil o boethoffrymau a offrymodd efe arni hi.
2 Chronicles 7:10Ac yn y trydydd dydd ar hugain o’r seithfed mis y gollyngodd efe y bobl i’w pabellau, yn hyfryd ac yn llawen eu calon, am y daioni a wnaethai yr ARGLWYDD i Dafydd, ac i Solomon, ac i Israel ei pobl.
2 Chronicles 29:31A Heseceia a attebodd ac a ddywed¬odd, Yn awr yr ymgysegrasoch chwi i’r ARGLWYDD; nesewch, a dygwch ebyrth, ac ebyrth moliant, i dŷ yr ARGLWYDD. A’r gynulleidfa a ddygasant ebyrth, ac ebyrth moliant, a phob ewyllysgar o galon, boethoffrymau.
2 Chronicles 31:20Ac fel hyn y gwnaeth Heseceia trwy holl Jwda, ac efe a wnaeth yr hyn oedd dda ac uniawn, a’r gwirionedd, gerbron yr ARGLWYDD ei DDUW.