The Bible Software
Yr Efengyl yn ôl Mathew · Beibl (1620)

Yr Efengyl yn ôl Mathew 3

1AC yn y dyddiau hynny y daeth Ioan Fedyddiwr, gan bregethu yn niffaethwch Judea,

2A dywedyd, Edifarhêwch: canys nesaodd teyrnas nefoedd.

3Oblegid hwn yw efe yr hwn y dywedwyd am dano gan Esaias y prophwyd, gan ddywedyd, Llef un yn llefain yn y diffaethwch, Parottowch ffordd yr Arglwydd; gwnewch yn uniawn ei lwybrau ef.

4A'r Ioan hwnnw oedd a'i ddillad o flew camel, a gwregys o groen ynghylch ei lwynau: a'i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt.

5Yna yr aeth allan atto ef Jerusalem a holl Judea, a'r holl wlad o amgylch yr Iorddonen:

6A hwy a fedyddiwyd ganddo ef yn yr Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau.

7¶ A phan welodd efe lawer o'r Phariseaid ac o'r Saduceaid yn dyfod i'w fedydd ef, efe a ddywed. wrthynt hwy, gwiberod, pwy a'ch rhag-rybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd?

8Dygwch gan hynny ffrwythau addas i edifeirwch.

9Ac na feddyliwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae gennym ni Abraham yn dad i ni: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw, ie, o'r meini hyn, gyfodi plant i Abraham.

10Ac yr awrhon hefyd y mae y fwyell wedi ei gosod ar wreiddyn y prennau: pob pren gan hynny yr hwn nid yw yn dwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân.

11Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi â dwfr i edifeirwch: eithr yr hwn sydd yn dyfod ar fy ol i, sydd gryfach na myfi, yr hwn nid ydwyf deilwng i ddwyn ei esgidiau: efe a'ch bedyddia chwi â'r Yspryd Glân, ac â thân.

12Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr-lanhâ ei lawrdyrnu, ac a gasgl ei wenith i'w ysgubor; eithr yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy.

13¶ Yna y daeth yr Iesu o Galilea i'r Iorddonen at Ioan, i'w fedyddio ganddo.

14Eithr Ioan a warafunodd iddo ef, gan ddywedyd, Y mae arnaf fi eisieu fy medyddio gennyt ti, ac a ddeui di attaf fi?

15Ond yr Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho ef, Gâd yr awrhon; canys fel hyn y mae yn weddus i ni gyflawni pob cyfiawnder. Yna efe a adawodd iddo.

16A'r Iesu, wedi ei fedyddio, a aeth yn y fan i fynu o'r dwfr: ac wele, y nefoedd a agorwyd iddo, ac efe a welodd Yspryd Duw yn disgyn fel colommen, ac yn dyfod arno ef.

17Ac wele lef o'r nefoedd, yn dywedyd, Hwn yw fy anwyl Fab, yn yr hwn y'm boddlonwyd.

← Yr Efengyl yn ôl Mathew 2Read In The App, Free →Yr Efengyl yn ôl Mathew 4 →

Study Yr Efengyl yn ôl Mathew 3

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesThe Fourfold GospelJohn LightfootGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728