Yr Efengyl yn ôl Mathew 8:4
A dywedodd yr Iesu wrtho, Gwêl na ddywedych wrth neb, eithr dos, dangos dy hun i’r offeiriad, ac offryma’r rhodd a orchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
5¶ Ac wedi dyfod yr Iesu i mewn i Gapernaum, daeth ato ganwriad, gan ddeisyfu arno,
Read all of Yr Efengyl yn ôl Mathew 8
Cross References
Leviticus 13:2Dyn (pan fyddo y’nghroen ei gnawd chŵydd, neu grammen, neu ddisgleirder, a bod y’nghroen ei gnawd ef megis pla y clwyf gwahanol,) a ddygir at Aaron yr offeiriad, neu at un o’i feibion ef yr offeiriaid.
2 Kings 5:7A phan ddarllenodd brenin Israel y llythyr, efe a rwygodd ei ddillad, ac a ddywedodd, Ai Duw ydwyf fi, i farwhau, ac i fywhau, pan anfonai efe ataf fi i iacháu gŵr o’i wahanglwyf? gwybyddwch gan hynny, atolwg, a gwelwch mai ceisio achos y mae efe i’m herbyn i.
Matthew 3:15Ond yr Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho ef, Gâd yr awrhon; canys fel hyn y mae yn weddus i ni gyflawni pob cyfiawnder. Yna efe a adawodd iddo.
Matthew 6:1Gochelwch rhag gwneuthur eich elusen yng ngŵydd dynion, er mwyn cael eich gweled ganddynt: os amgen, ni chewch dâl gan eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd.
Matthew 10:18A chwi a ddygir at lywiawdwyr a brenhinoedd o’m hachos i, er tystiolaeth iddynt hwy ac i’r Cenhedloedd.
Matthew 16:20Yna y gorchmynnodd efe i’w ddisgyblion, na ddywedent i neb mai efe oedd Iesu Grist.