The Bible Software
Llyfr Nahum · Beibl (1620)

Llyfr Nahum 1

1Baich Ninefe. Llyfr gweledigaeth Nahum yr Elcosiad.

2DUW sydd eiddigus, a'r ARGLWYDD sydd yn dial, yr ARGLWYDD sydd yn dial, ac yn berchen llid: dial yr ARGLWYDD ar ei wrthwynebwyr, a dal dig y mae efe i'w elynion.

3Yr ARGLWYDD sydd hwyrfrydig i ddig, a mawr ei rym, ac ni ddieuoga yr anwir: yr ARGLWYDD sydd a'i lwybr yn y corwynt ac yn y rhyferthwy, a'r cymylau yw llwch ei draed ef.

4Efe a gerydda y môr, ac a'i sych; yr holl afonydd a ddihysbydda efe: llesgaodd Basan a Channel, a llesgaodd blodeuyn Libanus.

5Y mynyddoedd a grynant rhagddo, a'r bryniau a doddant, a'r ddaear a lysg gan ei olwg, a'r byd hefyd a chwbl ag a drigant ynddo.

6Pwy a saif o flaen ei lid ef? a phwy a gyfyd yng nghynddaredd ei ddigofaint ef? ei lid a dywelltir fel tân, a'r creigiau a fwrir i lawr ganddo.

7Daionus yw yr ARGLWYDD, amddiffynfa yn nydd blinder; ac efe a edwyn y rhai a ymddiriedant ynddo.

8A llifeiriant yn myned trosodd y gwna efe dranc ar ei lle hi, a thywyllwch a erlid ei elynion ef.

9Beth a ddychmygwch yn erbyn yr ARGLWYDD? efe a wna dranc; ni chyfyd blinder ddwywaith.

10Canys tra yr ymddrysont fel drain, a thra meddwont fel meddwon, ysir hwynt fel sofl wedi llawn wywo.

11Ohonot y daeth allan a ddychmyga ddrwg yn erbyn yr ARGLWYDD: cynghorwr drygionus.

12Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Pe byddent heddychol, ac felly yn aml, eto fel hyn y torrir hwynt i lawr, pan elo efe heibio. Er i mi dy flino, ni'th flinaf mwyach.

13Canys yr awron y torraf ei iau ef oddi arnat, drylliaf dy rwymau.

14Yr ARGLWYDD hefyd a orchmynnodd o'th blegid, na heuer o'th enw mwyach: torraf o dŷ dy dduwiau y gerfiedig a'r dawdd ddelw: gwnaf dy fedd; canys gwael ydwyt.

15Wele ar y mynyddoedd draed yr efengylwr, cyhoeddwr heddwch; cadw di, O Jwda, dy wyliau, tâl dy addunedau; canys nid â y drygionus trwot mwy; cwbl dorrwyd ef ymaith.

← Llyfr Micha 7Read In The App, Free →Llyfr Nahum 2 →

Study Llyfr Nahum 1

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123