The Bible Software
Llyfr Nahum · Beibl (1620)

Llyfr Nahum 2

1Daeth y chwalwr i fyny o flaen dy wyneb: cadw yr amddiffynfa, gwylia y ffordd, nertha dy lwynau, cadarnha dy nerth yn fawr.

2Canys dychwelodd yr ARGLWYDD ardderchowgrwydd Jacob, fel ardderchowgrwydd Israel: canys y dihysbyddwyr a'u dihysbyddodd hwynt, ac a lygrasant eu cangau gwinwydd.

3Tarian ei wŷ r grymus a liwiwyd yn goch, ei wŷ r o ryfel a wisgwyd ag ysgarlad; y cerbydau fyddant gyda lampau tanllyd y dydd y byddo ei arlwy, a'r ffynidwydd a ysgydwir yn aruthrol.

4Y cerbydau a gynddeiriogant yn yr heolydd, trawant wrth ei gilydd yn y prifyrdd: eu gwelediad fydd fel fflamau, ac fel mellt y saethant.

5Efe a gyfrif ei weision gwychion; tramgwyddant wrth gerdded; prysurant at ei chaer hi, a'r amddiffyn a baratoir.

6Pyrth y dwfr a agorir, a'r palas a ymddetyd.

7A Hussab a gaethgludir, dygir hi i fyny, a'i morynion yn ei harwain megis â llais colomennod, yn curo ar eu dwyfronnau.

8A Ninefe sydd er ys dyddiau fel llyn o ddwfr: ond hwy a ffoant. Sefwch, sefwch, meddant; ac ni bydd a edrycho yn ôl.

9Ysglyfaethwch arian, ysglyfaethwch aur; canys nid oes diben ar yr ystôr, a'r gogoniant o bob dodrefn dymunol.

10Gwag, a gorwag, ac anrheithiedig yw hi, a'r galon yn toddi, a'r gliniau yn taro ynghyd, ac anhwyl ar bob lwynau, a'u hwynebau oll a gasglant barddu.

11Pa le y mae trigfa y llewod, a phorfa cenawon y llewod? lle y rhodiai y llew, sef yr hen lew, a'r cenau llew, ac nid oedd a'u tarfai?

12Y llew a ysglyfaethodd ddigon i'w genawon, ac a dagodd i'w lewesau, ac a lanwodd ag ysglyfaeth ei ffau, a'i loches ag ysbail.

13Wele fi yn dy erbyn, medd ARGLWYDD y lluoedd; a mi a losgaf ei cherbydau yn y mwg, a'r cleddyf a ddifa dy lewod ieuainc; a thorraf ymaith o'r ddaear dy ysglyfaeth, ac ni chlywir mwy lais dy genhadau.

← Llyfr Nahum 1Read In The App, Free →Llyfr Nahum 3 →

Study Llyfr Nahum 2

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123