The Bible Software
Llyfr Nehemeia · Beibl (1620)

Llyfr Nehemeia 11

1A thywysogion y bobl a drigasant yn Jerwsalem: a’r rhan arall o’r bobl a fwriasant goelbrennau i ddwyn un o’r deg i drigo yn Jerwsalem y ddinas sanctaidd, a naw rhan i fod yn y dinasoedd eraill.

2A’r bobl a fendithiasant yr holl wŷr a ymroddasent yn ewyllysgar i breswylio yn Jerwsalem.

3A dyma benaethiaid y dalaith, y rhai a drigasant yn Jerwsalem: ond yn ninasoedd Jwda pawb a drigasant yn eu meddiant o fewn eu dinasoedd, sef Israel, yr offeiriaid, a’r Lefiaid, a’r Nethiniaid, a meibion gweision Solomon.

4A rhai o feibion Jwda ac o feibion Benjamin a drigasant yn Jerwsalem. O feibion Jwda; Athaia mab Usseia, fab Sechareia, fab Amareia, fab Seffatia, fab Mahalaleel, o feibion Peres;

5Maaseia hefyd mab Baruch, fab Colhose, fab Hasaia, fab Adaia, fab Joiarib, fab Seehareia, fab Siloni.

6Holl feibion Peres y rhai oedd yn trigo yn Jerwsalem, oedd bedwar cant ac wyth, a thrigain o wŷr grymus.

7A dyma feibion Benjamin; Salu mab, Mesulam, fab Joed, fab Pedaia, fab Colaia, fab Maaseia, fab Ithiel, fab Jesaia.

8Ac ar ei ôl ef Gabai, Salai; naw cant ac wyth ar hugain.

9A Joel mab Sichri oedd swyddog arnynt hwy: a Jwda mab Senua yn ail ar y ddinas.

10O’r offeiriaid: Jedaia mab Joiarib, Jachin.

11Seraia mab Hilceia, fab Mesulam, fab Sadoc, fab Meraioth, fab Ahitub, blaenor tŷ DDUW.

12A’u brodyr y rhai oedd yn gweithio gwaith y tŷ, oedd wyth cant a dau ar hugain: ac Adaia mab Jeroham, fab Pelalia, fab Amsi, fab Sechareia, fab Pasur, fab Malcheia,

13A’i frodyr, pennau-cenedl, dau cant a dau a deugain: ac Amasai mab Asareel, fab Ahasai, fab Mesilemoth, fab Immer,

14A’u brodyr hwynt, yn gedyrn o nerth, oedd gant ac wyth ar hugain: a Sabdiel mab Haggedolim yn swyddog arnynt.

15Ac o’r Lefiaid: Semaia mab Hasub fab Asricam, fab Hasabeia fab Bunni.

16Sabbethai hefyd, a Josabad, o benaethiaid y Lefiaid, oedd oruchaf ar y gwaith o’r tu allan i dŷ DDUW.

17Mataneia hefyd mab Micha, fab Sabdi, fab Asaff, oedd bennaf i ddechrau tâl diolch mewn gweddi: a Bacbuceia yn ail o’i frodyr, ac Abda mab Sammua, fab Galal, fab Jedwthwn.

18Yr holl Lefiaid yn y ddinas sanctaidd, oedd ddau cant a phedwar a phedwar ugain.

19A’r porthorion, Accub, Talmon, a’u brodyr yn cadw y pyrth, oedd gant a deuddeg a thrigain.

20A’r rhan arall o Israel, o’r offeiriaid ac o’r Lefiaid a drigent yn holl ddinasoedd Jwda, pob un yn ei etifeddiaeth.

21Ond y Nethiniaid oeddynt yn aros yn y tŵr: Siha a Gispa oedd ar y Nethiniaid.

22A swyddog y Lefiaid yn Jerwsalem, oedd Ussi mab Bani, fab Hasabeia, fab Mataneia, fab Micha: o feibion Asaff, y cantorion oedd ar waith tŷ DDUW.

23Canys gorchymyn y brenin amdanynt hwy oedd, fod ordinhad safadwy i’r cantorion, dogn dydd yn ei ddydd.

24A Phethaheia mab Mesesabeel, o feibion Sera mab Jwda, oedd wrth law y brenin ym mhob peth a berthynai i’r bobl.

25Ac am y trefydd a’u meysydd, rhai o feibion Jwda a drigasant yng Nghaer-Arba a’i phentrefi, ac yn Dibon a’i phentrefi, ac yn Jecabseel a’i phentrefi,

26Ac yn Jesua, ac ym Molada, ac yn Beth-phelet,

27Ac yn Hasar-sual, ac yn Beerseba a’i phentrefi,

28Ac yn Siclag, ac ym Mechona, ac yn ei phentrefi,

29Ac yn En-rimmon, ac yn Sarea, ac yn Jarmuth,

30Sanoa, Adulam, a’u trefydd, Lachis a’i meysydd, yn Aseca a’i phentrefi. A hwy a wladychasant o Beerseba hyd ddyffryn Hinnom.

31A meibion Benjamin o Geba a drigasant ym Michmas, ac Aia, a Bethel, a’u pentrefi,

32Yn Anathoth, Nob, Ananeia,

33Hasor, Rama, Gittaim,

34Hadid, Seboim, Nebalat,

35Lod, ac Ono, glyn y crefftwyr.

36Ac o’r Lefiaid yr oedd rhannau yn Jwda, ac yn Benjamin.

← Llyfr Nehemeia 10Read In The App, Free →Llyfr Nehemeia 12 →

Study Llyfr Nehemeia 11

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213