Llyfr Numeri 1:53
A’r Lefiaid a wersyllant o amgylch pabell y dystiolaeth, fel na byddo llid yn erbyn cynnulleidfa meibion Israel: a chadwed y Lefiaid wyliadwriaeth pabell y dystiolaeth.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 10:6A dywedodd Moses wrth Aaron, ac wrth Eleazar ac wrth Ithamar ei feibion, Na ddïosgwch oddi am eich pennau, ac na rwygwch eich gwisgoedd: rhag i chwi farw, a dyfod digofaint ar yr holl gynnulleidfa: ond wyled eich brodyr chwi, holl dŷ Israel, am y llosgiad a losgodd yr Arglwydd.
Numbers 3:7A hwy a gadwant ei gadwraeth ef, a chadwraeth yr holl gynnulleidfa, o flaen pabell y cyfarfod, i wneuthur gwasanaeth y tabernacl.
Numbers 8:19A rhoddais y Lefiaid yn rhodd i Aaron, ac i’w feibion, o blith meibion Israel, i wasanaethu gwasanaeth meibion Israel ym mhabell y cyfarfod, ac i wneuthur cymmod dros feibion Israel; fel na byddo pla ar feibion Israel, pan ddelo meibion Israel yn agos at y cyssegr.
Numbers 8:26Ond gwasanaethed gyd â’i frodyr ym mhabell y cyfarfod, i oruchwylio; ac na wasanaethed wasanaeth: fel hyn y gwnei i’r Lefiaid yn eu goruchwyliaeth.
Numbers 16:46¶ Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Cymmer thusser, a dod dân oddi ar yr allor ynddi, a gosod arogl-darth arni, a dos yn fuan at y gynnulleidfa, a gwna gymmod drostynt: canys digofaint a aeth allan oddi ger bron yr Arglwydd, dechreuodd y pla.
Numbers 18:3A hwy a gadwant dy gadwraeth di, a chadwraeth yr holl babell: ond na ddeuant yn agos at ddodrefn y cyssegr, nac at yr allor, rhag eu marw hwynt, a chwithau hefyd.