Llyfr Numeri 1
1Neillduo y Lefiaid i wasanaeth yr Arglwydd. A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, yn anialwch Sinai, ym mhabell y cyfarfod, ar y dydd cyntaf o’r ail mis, yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwy allan o dir yr Aipht, gan ddywedyd,
2Cymmerwch nifer holl gynnulleidfa meibion Israel, yn ol eu teuluoedd, wrth dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, pob gwrryw wrth eu pennau;
3O fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a allo fyned i ryfel yn Israel: ti ac Aaron a’u cyfrifwch hwynt yn ol eu lluoedd.
4A bydded gyd â chwi wr o bob llwyth; sef y gwr pennaf o dŷ ei dadau.
5¶ A dyma enwau’r gwŷr a safant gyd â chwi. O lwyth Reuben; Elisur mab Sedëur.
6O lwyth Simeon; Selumiel mab Surisàdai.
7O lwyth Judah; Nahson mab Aminadab
8O lwyth Issachar; Nethaneel mab Suar.
9O lwyth Zabulon; Elïab mab Helon.
10O feibion Joseph: dros Ephraim, Elisama mab Ammihud; dros Manasseh, Gamaliel mab Pedasur.
11O lwyth Benjamin; Abidan mab Gideoni.
12O lwyth Dan; Ahïezer mab Ammisàdai.
13O lwyth Aser; Pagïel mab Ocran.
14O lwyth Gad; Elïasaph mab Deuel.
15O lwyth Naphtali; Ahira mab Enan.
16Dyma rai enwog y gynnulleidfa, tywysogion llwythau eu tadau, pennaethiaid miloedd Israel oeddynt hwy.
17¶ A chymmerodd Moses ac Aaron y gwŷr hyn a hysbysasid wrth eu henwau;
18Ac a gasglasant yr holl gynnulleidfa ynghyd ar y dydd cyntaf o’r ail mis; a rhoddasant eu hachau, trwy eu teuluoedd, yn ol tŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, erbyn eu pennau.
19Megis y gorchymynodd yr Arglwydd i Moses, felly y rhifodd efe hwynt yn anialwch Sinai.
20¶ A meibion Reuben, cyntaf-anedig Israel, wrth eu cenedl eu hun, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, erbyn eu pennau, pob gwrryw o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a allai fyned i ryfel;
21Y rhai a rifwyd o honynt, sef o lwyth Reuben, oedd chwe mil a deugain a phùm cant.
22¶ O feibion Simeon, wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, eu rhifedigion oedd, dan rif eu henwau, erbyn eu pennau, pob gwrryw o fab ugain mlwydd ac uchod, sef pob un a’r a allai fyned i ryfel;
23Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Simeon, oedd onid un fil tri ugain mil a thri chant.
24¶ O feibion Gad, wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu lluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a allai fyned i ryfel;
25Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Gad, oeddynt bùm mil a deugain a chwe chant a deg a deugain.
26¶ O feibion Judah, wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pawb a’r a oedd yn gallu myned i ryfel;
27Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Judah, oedd bedair mil ar ddeg a thri ugain a chwe chant.
28¶ O feibion Issachar, wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel;
29Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Issachar, oedd bedair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant.
30¶ O feibion Zabulon, wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel;
31Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Zabulon, oedd ddwy fil ar bymtheg a deugain a phedwar cant.
32¶ O feibion Joseph, sef o feibion Ephraim, wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel;
33Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Ephraim, oedd ddeugain mil a phùm cant.
34¶ O feibion Manasseh, wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel;
35Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Manasseh, oedd ddeuddeng mil ar hugain a dau gant.
36¶ O feibion Benjamin, wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel;
37Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Benjamin, oedd bymtheg mil ar hugain a phedwar cant.
38¶ O feibion Dan, wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel;
39Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Dan, oeddynt ddwy fil a thri ugain a saith gant.
40¶ O feibion Aser, wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel;
41Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Aser, oeddynt un fil a deugain a phùm cant.
42¶ O feibion Naphtali, wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel;
43Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Naphtali, oedd dair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant.
44Dyma y rhifedigion, y rhai a rifodd Moses, ac Aaron, a thywysogion Israel; sef y deuddeng-wr, y rhai oedd bob un dros dŷ eu tadau.
45Felly yr ydoedd holl rifedigion meibion Israel, wrth dŷ eu tadau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel yn Israel;
46A’r holl rifedigion oedd chwe chàn mil a thair mil a phùm cant a deg a deugain.
47¶ Ond y Lefiaid, trwy holl lwythau eu tadau, ni rifwyd yn eu mysg hwynt:
48Canys llefarasai yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
49Ond na chyfrif lwyth Lefi, ac na chymmer eu nifer hwynt, ym mysg meibion Israel.
50Ond dod i’r Lefiaid awdurdod ar babell y dystiolaeth, ac ar ei holl ddodrefn, ac ar yr hyn oll a berthyn iddi: hwynt-hwy a ddygant y babell, a’i holl ddodrefn, ac a’i gwasanaethant, ac a wersyllant o amgylch i’r babell.
51A phan symmudo’r babell, y Lefiaid a’i tyn hi i lawr; a phan arhoso y babell, y Lefiaid a’i gesyd hi i fynu: lladder y dïeithr a ddelo yn agos.
52A gwersylled meibion Israel bob un yn ei wersyll ei hun, a phob un wrth ei lumman ei hun, trwy eu lluoedd.
53A’r Lefiaid a wersyllant o amgylch pabell y dystiolaeth, fel na byddo llid yn erbyn cynnulleidfa meibion Israel: a chadwed y Lefiaid wyliadwriaeth pabell y dystiolaeth.
54A meibion Israel a wnaethant yn ol yr hyn oll a orchymynasai yr Arglwydd wrth Moses; felly y gwnaethant.