Llyfr Numeri 10:9
Hefyd pan eloch i ryfel yn eich gwlad yn erbyn y gorthrymmwr a’ch gorthrymmo chwi; cenwch larwm mewn udgyrn: yna y coffêir chwi ger bron yr Arglwydd eich Duw, ac yr achubir chwi rhag eich gelynion.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 8:1yr hwn y mae Duw yn ei dderbyn, ac yn addaw na felldithiai y ddaear mwyach. A Duw a gofiodd Noah, a phob peth byw, a phob anifail a’r a oedd gyd ag ef yn yr arch: a Duw a wnaeth i wynt dramwy ar y ddaear, a’r dyfroedd a lonyddasant.
Deuteronomy 20:1Ni wasanaetha dinystrio prennau ymborth dyn, wrth warchae ar ddinas. Pan elych i ryfel yn erbyn dy elynion, a gweled meirch a cherbydau, a phobl fwy na thi, nac ofna rhagddynt: o herwydd yr Arglwydd dy Dduw fydd gyd â thi, yr hwn a’th ddug di i fynu o dir yr Aipht.
Judges 2:18A phan godai yr ARGLWYDD farnwyr arnynt hwy, yna yr ARGLWYDD fyddai gyda’r barnwr, ac a’u gwaredai hwynt o law eu gelynion holl ddyddiau y barnwr: canys yr ARGLWYDD a dosturiai wrth eu griddfan hwynt, rhag eu gorthrymwyr a’u cystuddwyr.
Judges 4:2A’r ARGLWYDD a’u gwerthodd hwynt i law Jabin brenin Canaan, yr hwn oedd yn teyrnasu yn Hasor: a thywysog ei lu ef oedd Sisera; ac efe oedd yn trigo; yn Haroseth y cenhedloedd.
Judges 6:34Ond ysbryd yr ARGLWYDD a ddaeth ar Gedeon; ac efe a utganodd mewn utgorn, ac Abieser a aeth ar ei ôl ef.
Judges 10:8A hwy a flinasant ac a ysigasant feibion Israel y flwyddyn hoono: tair blynedd ar bymtheg, holl feibion Israel y rhai oedd tu hwnt i’r Iorddonen, yng ngwlad yr Amoriaid, yr hon sydd yn Gilead. º