The Bible Software
Llyfr Numeri · Beibl (1620)

Llyfr Numeri 11

1Duw yn rhoddi soflieir yn ei ddigllonedd yn Cibroth-Hattaafah. A’r bobl, fel tuchanwyr, oeddynt flin y’nghlustiau yr Arglwydd: a chlywodd yr Arglwydd hyn; a’i ddig a ennynodd; a thân yr Arglwydd a gyneuodd yn eu mysg hwynt, ac a ysodd gwrr y gwersyll.

2A llefodd y bobl ar Moses: a gweddïodd Moses ar yr Arglwydd; a’r tân a ddiffoddodd.

3Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw, Taberah: am gynneu o dân yr Arglwydd yn eu mysg hwy.

4¶ A’r llïaws cymmysg yr hwn ydoedd yn eu mysg a flysiasant yn ddirfawr: a meibion Israel hefyd a ddychwelasant, ac a wylasant, ac a ddywedasant, Pwy a rydd i ni gig i’w fwytta?

5Côf yw gennym y pysgod yr oeddym yn ei fwytta yn yr Aipht yn rhad, y cucumerau, a’r pompionau, a’r cenhin, a’r winwyn, a’r garlleg:

6Ond yr awr hon y mae ein heneidiau ni yn gwywo, heb ddim ond y manna yn ein golwg.

7A’r manna hwnnw oedd fel had coriander, a’i liw fel lliw bdèliwm.

8Y bobl a aethant o amgylch, ac a’ i casglasant ac a’ i malasant mewn melinau, neu a’ i curasant mewn morter, ac a’ i berwasant mewn peiriau, ac a’i gwnaethant y deisennau: a’i flas ydoedd fel blas olew îr.

9A phan ddisgynai y gwlith y nos ar y gwersyll, disgynai y manna arno ef.

10¶ A chlybu Moses y bobl yn wylo trwy eu tylwythau, bob un yn nrws ei babell: ac ennynodd dig yr Arglwydd yn fawr; a drwg oedd gan Moses.

11Dywedodd Moses hefyd wrth yr Arglwydd, Paham y drygaist dy was? a phaham na chawn ffafr yn dy olwg, gan i ti roddi baich yr holl bobl hyn arnaf?

12Ai myfi a feichiogais ar yr holl bobl hyn? ai myfi a’u cenhedlais, fel y dywedech wrthyf, Dwg hwynt yn dy fynwes, (megis y dwg tadmaeth y plentyn sugno,) i’r tir a addewaist trwy lw i’w tadau?

13O ba le y byddai gennyf fi gig i’w roddi i’r holl bobl hyn? canys wylo y maent wrthyf, gan ddywedyd, Dod i ni gig i’w fwytta.

14Ni allaf fi fy hunan arwain yr holl bobl hyn; canys rhy drwm ydyw i mi.

15Ac os felly y gwnei i mi, attolwg, gan ladd lladd fi, os cefais ffafr yn dy olwg di; fel na welwyf fy nrygfyd.

16¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Casgl i mi ddengwr a thri ugain o henuriaid Israel, y rhai a wyddost eu bod yn henuriaid y bobl, ac yn swyddogion arnynt; a dwg hwynt i babell y cyfarfod, a safant yno gyd â thi.

17Canys disgynnaf, a llefaraf wrthyt yno: a mi a gymmeraf o’r yspryd sydd arnat ti, ac a’i gosodaf arnynt hwy; felly y dygant gyd â thi faich y bobl, fel na ddygech di ef yn unig.

18Am hynny dywed wrth y bobl, Ymsancteiddiwch erbyn y fory, a chewch fwytta cig: canys wylasoch y’nghlustiau yr Arglwydd, gan ddywedyd, Pwy a ddyry i ni gig i’w fwytta? canys yr ydoedd yn dda arnom yn yr Aipht: am hynny y rhydd yr Arglwydd i chwi gig, a chwi a fwyttêwch.

19Nid un dydd y bwyttêwch, ac nid dau, ac nid pump o ddyddiau, ac nid deg diwrnod, ac nid ugain diwrnod;

20Ond hyd fis o ddyddiau, hyd oni ddêl allan o’ch ffroenau, a’i fod yn ffiaidd gennych: am i chwi ddirmygu yr Arglwydd yr hwn sydd yn eich plith, ac wylo o honoch yn ei ŵydd ef, gan ddywedyd, Paham y daethom allan o’r Aipht?

21A dywedodd Moses, Chwe chàn mil o wŷr traed yw y bobl yr ydwyf fi yn eu plith; a thi a ddywedi, Rhoddaf gig iddynt i’w fwyta fis o ddyddiau.

22Ai y defaid a’r gwartheg a leddir iddynt, fel y byddo digon iddynt? ai holl bysg y môr a gesglir ynghyd iddynt, fel y byddo digon iddynt?

23A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, A gwttogwyd llaw yr Arglwydd? yr awr hon y cei di weled a ddigwydd fy ngair i ti, ai na ddigwydd.

24¶ A Moses a aeth allan ac a draethodd eiriau yr Arglwydd wrth y bobl, ac a gasglodd y dengwr a thri ugain o henuriaid y bobl, ac a’u gosododd hwynt o amgylch y babell.

25Yna y disgynodd yr Arglwydd mewn cwmmwl, ac a lefarodd wrtho; ac a gymmerodd o’r yspryd oedd arno, ac a’i rhoddes i’r deg henaf-gwyr a thri ugain. A thra y gorphwysai yr yspryd arnynt, y prophwydent, ac ychwaneg ni wnaent.

26A dau o’r gwŷr a drigasant yn y gwersyll, (enw un ydoedd Eldad, enw y llall Medad;) a gorphwysodd yr yspryd arnynt hwy, am eu bod hwy o’r rhai a ysgrifenasid; ond nid aethant i’r babell, etto prophwydasant yn y gwersyll.

27A rhedodd llangc, a mynegodd i Moses, ac a ddywedodd, Y mae Eldad a Medad yn prophwydo yn y gwersyll.

28A Josua mab Nun, gweinidog Moses o’i ieuengctid, a attebodd ac a ddywedodd, Moses, fy arglwydd, gwahardd iddynt.

29A dywedodd Moses wrtho, Ai cenfigennu yr ydwyt ti drosof fi? O na byddai holl bobl yr Arglwydd yn brophwydi, a rhoddi o’r Arglwydd ei yspryd arnynt!

30A Moses a aeth i’r gwersyll, efe a henuriaid Israel.

31¶ Ac fe aeth gwynt oddi wrth yr Arglwydd, ac a ddug soflieir oddi wrth y môr, ac a’u taenodd wrth y gwersyll, megis taith diwrnod ar y naill du, a thaith diwrnod ar y tu arall, o amgylch y gwersyll, a hynny ynghylch dau gufydd, ar wyneb y ddaear.

32Yna y cododd y bobl y dydd hwnnw oll, a’r nos oll, a’r holl ddydd drannoeth, ac a gasglasant y soflieir: yr hwn a gasglodd leiaf, a gasglodd ddeg homer: a chan daenu y taenasant hwynt iddynt eu hunain o amgylch y gwersyll.

33A’r cig oedd etto rhwng eu dannedd hwynt heb ei gnoi, pan ennynodd digofaint yr Arglwydd yn erbyn y bobl, a’r Arglwydd a darawodd y bobl â phla mawr iawn.

34Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw Cibroth-Hattaafah; am iddynt gladdu yno y bobl a flysiasent.

35O Feddau y blys yr aeth y bobl i Haseroth; ac arhosasant yn Haseroth.

← Llyfr Numeri 10Read In The App, Free →Llyfr Numeri 12 →

Study Llyfr Numeri 11

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536