Llyfr Numeri 11:23
A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, A gwttogwyd llaw yr Arglwydd? yr awr hon y cei di weled a ddigwydd fy ngair i ti, ai na ddigwydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 6:1a Lefi, o’r hwn y daeth Moses ac Aaron. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Yn awr y cei weled beth a wnaf i Pharaoh: canys trwy law gadarn y gollwng efe hwynt, a thrwy law gadarn y gyrr efe hwynt o’i wlad.
2 Kings 4:43A’i weinidog ef a ddywedodd, I ba beth y rhoddaf hyn gerbron cannwr? Dywedodd yntau, Dyro i’r bobl, fel y bwytaont: canys fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Hwy a fwytânt, a bydd gweddill.
2 Kings 7:17A’r brenin a osododd y tywysog yr oedd efe yn pwyso ar ei law i wylied ar y porth: a’r bobl a’i mathrasant ef yn y porth, ac efe fu farw, megis y llefarasai gŵr Duw, yr hwn a ddywedasai hynny pan ddaeth y brenin i waered ato ef.
Isaiah 50:2Paham, pan ddeuthum, nad oedd neb i’m derbyn? pan elwais, nad atebodd neb? Gan gwtogi a gwtogodd fy llaw, fel na allai ymwared? neu onid oes ynof north i achub? wele, a’m cerydd y sychaf y môr, gwneuthum yr afonydd yn ddiffeithwch: eu pysgod a ddrewant o eisiau dwfr, ac a fyddant feirw o syched. º
Jeremiah 32:17Oarglwydd DDUW, wele, ti a wnaethost y nefoedd a’r ddaear, a’thi fawr allu ac a’th fraich estynedig; nid oes dim rhy anodd i ti. º
Jeremiah 44:28A’r rhai a ddihangant gan y cleddyf, ac a ddychwelant o wlad yr Aifft i wlad Jwda, fyddant ychydig o nifer: a holl weddill Jwda, y rhai a aethant i wlad yr Aifft i aros yno, a gant wybod gair pwy a saif, ai yr eiddof fi, ai yr eiddynt hwy. º