Llyfr Numeri 13:17
¶ A Moses a’u hanfonodd hwynt i edrych ansawdd gwlad Canaan, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch yma tu a’r dehau, a dringwch i’r mynydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
16Dyma enwau y gwŷr a anfonodd Moses i edrych ansawdd y wlad. A Moses a enwodd Osea mab Nun, Josua.
Cross References
Genesis 12:9Ac Abram a ymdeithiodd, gan fyned ac ymdaith tu a’r dehau.
Genesis 14:10A dyffryn Sidim oedd lawn o byllau clai; a brenhinoedd Sodom a Gomorrah a ffoisant, ac a syrthiasant yno: a’r lleill a ffoisant i’r mynydd.
Numbers 13:29Yr Amaleciaid sydd yn trigo yn nhir y dehau; a’r Hethiaid, a’r Jebusiaid, a’r Amoriaid, yn gwladychu yn y mynydd-dir; a’r Canaaneaid yn preswylio wrth y môr, a cher llaw yr Iorddonen.
Deuteronomy 1:44A daeth allan yr Amoriaid, oedd yn trigo yn y mynydd hwnnw, i’ch cyfarfod chwi; ac a’ch ymlidiasant fel y gwnai gwenyn, ac a’ch difethasant chwi yn Seir, hyd Hormah.
Joshua 10:40¶ Felly y tarawodd Josua yr holl fynydd-dir, a’r dehau, y gwastadedd hefyd, a’r bronnydd, a’u holl frenhinoedd: ni adawodd efe un y’ngweddill; eithr efe a ddifrododd bob perchen anadl, fel y gorchymynasai Arglwydd Dduw Israel.
Judges 1:9¶ Wedi hynny meibion Judah a aethant i waered i ymladd yn erbyn y Canaaneaid oedd yn trigo yn y mynydd, ac yn y dehau, ac yn y gwastadedd.