Llyfr Numeri 14:2
A holl feibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron: a’r holl gynnulleidfa a ddywedasant wrthynt, O na buasem feirw yn nhir yr Aipht! neu, O na buasem feirw yn y diffaethwch hwn!
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 14:11A dywedasant wrth Moses, Ai am nad oedd beddau yn yr Aipht, y dygaist ni i farw yn yr anialwch? Paham y gwnaethost fel hyn â ni, gan ein dwyn allan o’r Aipht?
Exodus 16:2A holl gynnulleidfa meibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses ac Aaron, yn yr anialwch.
Numbers 11:1Duw yn rhoddi soflieir yn ei ddigllonedd yn Cibroth-Hattaafah. A’r bobl, fel tuchanwyr, oeddynt flin y’nghlustiau yr Arglwydd: a chlywodd yr Arglwydd hyn; a’i ddig a ennynodd; a thân yr Arglwydd a gyneuodd yn eu mysg hwynt, ac a ysodd gwrr y gwersyll.
Numbers 14:27Pa hyd y cyd-ddygaf a’r gynnulleidfa ddrygionus hon sydd yn tuchan i’m herbyn? clywais duchan meibion Israel, y rhai sydd yn tuchan i’m herbyn.
Numbers 16:41¶ A holl gynnulleidfa meibion Israel a duchanasant drannoeth yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron, gan ddywedyd, Chwi a laddasoch bobl yr Arglwydd.
Numbers 20:2Ac nid oedd dwfr i’r gynnulleidfa: a hwy a ymgasglasant yn erbyn Moses ac Aaron.