Llyfr Numeri 20:2
Ac nid oedd dwfr i’r gynnulleidfa: a hwy a ymgasglasant yn erbyn Moses ac Aaron.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 16:2A holl gynnulleidfa meibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses ac Aaron, yn yr anialwch.
Exodus 16:12Clywais duchan meibion Israel: llefara wrthynt, gan ddywedyd, Yn yr hwyr y cewch fwytta cig, a’r bore y’ch diwellir o fara: cewch hefyd wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.
Exodus 17:2Am hynny y bobl a ymgynhennasant â Moses, ac a ddywedasant, Rhoddwch i ni ddwfr i yfed. A dywedodd Moses wrthynt, Paham yr ymgynhennwch â mi? Paham y temtiwch yr Arglwydd?
Numbers 14:2A holl feibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron: a’r holl gynnulleidfa a ddywedasant wrthynt, O na buasem feirw yn nhir yr Aipht! neu, O na buasem feirw yn y diffaethwch hwn!
Numbers 16:3Ac ymgasglasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron, ac a ddywedasant wrthynt, Gormod i chwi hyn; canys y mae yr holl gynnulleidfa yn sanctaidd bob un o honynt, ac y mae yr Arglwydd yn eu mysg: paham yr ymgodwch goruwch cynnulleidfa yr Arglwydd?
Numbers 16:42A bu, wedi ymgasglu o’r gynnulleidfa yn erbyn Moses ac Aaron, edrych o honynt ar babell y cyfarfod: ac wele, toasai y cwmmwl hi, ac ymddangosodd gogoniant yr Arglwydd.