Llyfr Numeri 15:3
Ac offrymmu o honoch aberth tanllyd i’r Arglwydd, offrwm poeth, neu aberth wrth dalu adduned, neu mewn offrwm gwirfodd, neu ar eich gwyliau gosodedig, gan wneuthur arogl peraidd i’r Arglwydd, o’r eidionau, neu o’r praidd:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 29:18A llosg yr hwrdd i gyd ar yr allor: poeth-offrwm i’r Arglwydd yw: arogl peraidd, aberth tanllyd i’r Arglwydd yw.
Exodus 29:41A’r oen arall a offrymmi di yn y cyfnos, ac a wnei iddo yr un modd ag i fwyd-offrwm y bore, ac i’w ddïod-offrwm, i fod yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd:
Leviticus 1:2Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddygo dyn o honoch offrwm i’r Arglwydd, o anifail, sef o’r eidionau, neu o’r praidd, yr offrymmwch eich offrwm.
Leviticus 1:13Ond golched y perfedd a’r traed mewn dwfr: a dyged yr offeiriad y cwbl, a llosged ar yr allor. Hwn sydd boeth-offrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
Leviticus 7:16Ond os adduned, neu offrwm gwirfodd, fydd aberth ei offrwm ef, y dydd yr offrymmo efe ei aberth, bwyttâer ef: a thrannoeth bwyttâer yr hyn fyddo yn weddill o hono.
Leviticus 22:18Llefara wrth Aaron, ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel, a dywed wrthynt, Pwy bynnag o dŷ Israel, a ac o ddïeithr yn Israel, a offrymmo ei offwrn yn ol ei holl addunedau, ac yn ol ei holl roddion gwirfodd, y rhai a offrymmant i’r Arglwydd yn boeth-offrwm;