Llyfr Numeri 17:5
A gwïalen y gwr a ddewiswyf, a flodeua: a mi a wnaf i furmur meibion Israel, y rhai y maent yn ei furmur i’ch erbyn, beidio â mi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
4A gâd hwynt ym mhabell y cyfarfod, ger bron y dystiolaeth, lle y cyfarfyddaf â chwi.
Cross References
Numbers 1:51A phan symmudo’r babell, y Lefiaid a’i tyn hi i lawr; a phan arhoso y babell, y Lefiaid a’i gesyd hi i fynu: lladder y dïeithr a ddelo yn agos.
Numbers 16:11Am hynny tydi a’th holl gynnulleidfa ydych yn ymgynnull yn erbyn yr Arglwydd: ond Aaron, beth yw efe, i chwi i duchan yn ei erbyn?
Numbers 17:10¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dod wïalen Aaron drachefn ger bron y dystiolaeth, i’w chadw yn arwydd i’r meibion gwrthryfelgar; fel y gwnelech i’w tuchan hwynt beidio â mi, ac na byddont feirw.
2 Chronicles 26:16Ond pan aeth yn gryf, ei galon a ddyrchafwyd i’w ddinistr ei hun; canys efe a droseddodd yn erbyn yr ARGLWYDD ei DDUW: ac efe a aeth i mewn i deml yr ARGLWYDD i arogldarthu ar allor yr arogldarth.
Isaiah 5:24Am hynny, megis ag yr ysa y ffagl dân y sofl, ac y difa y fflam y mân us: felly y bydd eu gwreiddyn hwynt yn bydredd, a’u blodeuyn a gyfyd i fyny fel llwch; am iddynt ddiystyru cyfraith ARGLWYDD y lluoedd, a dirmygu gair Sanct yr Israel.
Isaiah 13:11A mi a ymwelaf a’r byd am ei ddrygioni, ac a’r annuwiolion am eu hanwiredd: a gwnafi falchder y rhai rhyfygus beidio; gostyngaf hefyd uchder y rhai ofnadwy. º