The Bible Software
Llyfr Numeri · Beibl (1620)

Llyfr Numeri 17

1Ei gadael hi yn lle coffadwriaeth yn erbyn y gwrthryfelwyr. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2Llefara wrth feibion Israel, a chymmer gan bob un o honynt wïalen, yn ol tŷ eu tadau, sef gan bob un o’u pennaethiaid, yn ol tŷ eu tadau, deuddeg gwïalen; ysgrifena enw pob un ar ei wïalen.

3Ac ysgrifena enw Aaron ar wïalen Lefi: canys un wïalen fydd dros bob pennaeth tŷ eu tadau.

4A gâd hwynt ym mhabell y cyfarfod, ger bron y dystiolaeth, lle y cyfarfyddaf â chwi.

5A gwïalen y gwr a ddewiswyf, a flodeua: a mi a wnaf i furmur meibion Israel, y rhai y maent yn ei furmur i’ch erbyn, beidio â mi.

6¶ A llefarodd Moses wrth feibion Israel: a’u holl bennaethiaid a roddasant atto wialen dros bob pennaeth, yn ol tŷ eu tadau, sef deuddeg gwïalen; a gwïalen Aaron oedd ym mysg eu gwïail hwynt.

7A Moses a adawodd y gwïail ger bron yr Arglwydd, ym mhabell y dystiolaeth.

8A thrannoeth y daeth Moses i babell y dystiolaeth: ac wele, gwïalen Aaron dros dŷ Lefi a flagurasai, ac a fwriasai flagur, ac a flodeuasai flodau, ac a ddygasai almonau.

9A dug Moses allan yr holl wïail oddi ger bron yr Arglwydd at holl feibion Israel. Hwythau a edrychasant, ac a gymmerasant bob un ei wïalen ei hun.

10¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dod wïalen Aaron drachefn ger bron y dystiolaeth, i’w chadw yn arwydd i’r meibion gwrthryfelgar; fel y gwnelech i’w tuchan hwynt beidio â mi, ac na byddont feirw.

11A gwnaeth Moses fel y gorchymynodd yr Arglwydd iddo; felly y gwnaeth efe.

12A meibion Israel a lefarasant wrth Moses, gan ddywedyd, Wele ni yn trengi; darfu am danom, darfu am danom ni oll.

13Bydd farw pob un gan nesâu a nesao i dabernacl yr Arglwydd. A wneir pen am danom gan drengi?

← Llyfr Numeri 16Read In The App, Free →Llyfr Numeri 18 →

Study Llyfr Numeri 17

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536