Llyfr Numeri 18:22
Ac na ddeued meibion Israel mwyach yn agos i babell y cyfarfod; rhag iddynt ddwyn pechod, a marw.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 28:43A byddant am Aaron, ac am ei feibion, pan ddelont i mewn i babell y cyfarfod, neu pan ddelont yn agos at yr allor i weini yn y cyssegr: fel na ddygont anwiredd, a marw. Hyn fydd deddf dragywyddol iddo ef, ac i’w had ar ei ol.
Leviticus 22:9Ond cadwant fy neddf i, ac na ddygant bechod bob un arnynt eu hunain, i farw o’i blegid, pan halogant hi: myfi yw yr Arglwydd eu sancteiddydd hwynt.
Numbers 3:10Ac urdda di Aaron a’i feibion i gadw eu hoffeiriadaeth: a’r dïeithrddyn a ddelo yn agos, a roddir i farw.
Numbers 18:7Tithau a’th feibion gyd â thi a gedwch eich offeiriadaeth; ynghylch pob peth a berthyn i’r allor, ac o fewn y llèn wahan, y gwasanaethwch: yn wasanaeth rhodd y rhodd ais eich offeiriadaeth i chwi; a’r dïeithr a ddelo yn agos, a leddir.