Llyfr Numeri 18:20
¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Na fydded i ti etifeddiaeth yn eu tir hwynt, ac na fydded i ti ran yn eu mysg hwynt: myfi yw dy ran di, a’th etifeddiaeth, ym mysg meibion Israel.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Numbers 18:23Ond gwasanaethed y Lefiaid wasanaeth pabell y cyfarfod, a dygant eu hanwiredd: deddf dragywyddol fydd hyn trwy eich cenhedlaethau, nad etifeddant hwy etifeddiaeth ym mysg meibion Israel.
Deuteronomy 10:9Am hynny ni bydd rhan i Lefi, nac etifeddiaeth gyd â’i frodyr: yr Arglwydd yw ei etifeddiaeth ef; megis y dywedodd yr Arglwydd dy Dduw wrtho ef.
Deuteronomy 14:27A’r Lefiad yr hwn fyddo yn dy byrth, na wrthod ef: am nad oes iddo na rhan nac etifeddiaeth gyd â thi.
Deuteronomy 18:1Rhoddi y prophwyd rhyfygus i farwolaeth. Ni bydd i’r offeiriaid, i’r Lefiaid, i holl lwyth Lefi, ran nac etifeddiaeth ynghyd âg Israel: ebyrth tanllyd yr Arglwydd, a’i etifeddiaeth ef, a fwyttânt hwy.
Joshua 13:14Yn unig i lwyth Lefi ni roddodd efe etifeddiaeth; aberthau tanllyd Arglwydd Dduw Israel oedd ei etifeddiaeth ef, fel y llefarasai efe wrtho.
Joshua 14:3Canys Moses a roddasai etifeddiaeth i ddau lwyth, ac i hanner llwyth, o’r tu hwnt i’r Iorddonen; ond i’r Lefiaid ni roddasai efe etifeddiaeth yn eu mysg hwynt;