Llyfr Numeri 18:19
Holl offrymmau dyrchafael y pethau sanctaidd, y rhai a offrymmo meibion Israel i’r Arglwydd, a roddais i ti, ac i’th feibion, ac i’th ferched gyd â thi, trwy ddeddf dragywyddol: cyfammod halen tragywyddol fydd hyn, ger bron yr Arglwydd, i ti, ac i’th had gyd â thi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
18Ond eu cig fydd eiddot ti; fel parwyden y cyhwfan, ac fel yr ysgwyddog ddehau, y mae yn eiddot ti.
Cross References
Leviticus 2:13Dy holl fwyd-offrwm hefyd a hellti di â halen; ac na phalled halen cyfammod dy Dduw o fod ar dy fwyd-offrwm: offrymma halen ar bob offrwm i ti.
Leviticus 21:22Bara ei Dduw, o’r pethau sanctaidd cyssegredig, ac o’r pethau cyssegredig, a gaiff efe ei fwytta.
Numbers 18:8¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Aaron, Wele, mi a roddais i ti hefyd oruchwyliaeth fy offrymmau dyrchafael, o holl gyssegredig bethau meibion Israel; rhoddais hwynt i ti, o herwydd yr enneiniad, ac i’th feibion, trwy ddeddf dragywyddol.
Numbers 31:29Cymmerwch hyn o’u hanner hwynt, a dyro i Eleazar yr offeiriad, yn ddyrchafael-offrwm yr Arglwydd.
Deuteronomy 12:6A dygwch yno eich poeth-offrymmau, a’ch aberthau, a’ch degymmau, ac offrwm dyrchafael eich llaw, eich addunedau hefyd, a’ch offrymmau gwirfodd, a chyntaf-anedig eich gwartheg a’ch defaid.
2 Chronicles 13:5Oni ddylech chwi wybod roddi o ARGLWYDD DDUW Israel y frenhiniaeth i Dafydd ar Israel yn dragywydd, iddo ef ac i’w feibion, trwy gyfamod halen?