Llyfr Numeri 18:5
Eithr cedwch chwi oruchwyliaeth y cyssegr, a goruchwyliaeth yr allor; fel na byddo digofaint mwy yn erbyn meibion Israel.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 30:7Ac arogl-darthed Aaron arni arogl-darth llysieuog bob bore: pan daclo efe lampau, yr arogl-dartha efe.
Leviticus 24:3O’r tu allan i wahanlen y dystiolaeth, ym mhabell y cyfarfod, y trefna Aaron ef o hwyr hyd fore, ger bron yr Arglwydd, bob amser. Deddf dragywyddol trwy eich cenhedlaethau fydd hyn.
Numbers 4:18Na thorrwch ymaith lwyth tylwyth y Cohathiaid o blith y Lefiaid:
Numbers 8:19A rhoddais y Lefiaid yn rhodd i Aaron, ac i’w feibion, o blith meibion Israel, i wasanaethu gwasanaeth meibion Israel ym mhabell y cyfarfod, ac i wneuthur cymmod dros feibion Israel; fel na byddo pla ar feibion Israel, pan ddelo meibion Israel yn agos at y cyssegr.
1 Chronicles 9:19Salum hefyd mab Core, fab Ebiasaff, fab Cora, a’r Corahiaid ei frodyr ef o dylwyth ei dad, oedd ar waith y weinidogaeth, yn cadw pyrth y babell: a’u tadau hwynt ar lu yr ARGLWYDD, oedd yn cadw y ddyfodfa i mewn. º
1 Chronicles 9:33A dyma y cantorion, pennau-cenedl y Lefiaid, y rhai oedd mewn ystafelloedd yn ysgyfala; oherwydd arnynt yr oedd y gwaith hwnnw ddydd a nos. º