Llyfr Numeri 19:13
Pob un a gyffyrddo â chorph marw dyn fyddo wedi marw, ac nid ymlanhao, sydd yn halogi tabernacl yr Arglwydd; a thorrir ymaith yr enaid hwnnw oddi wrth Israel: am na thaenellwyd dwfr neillduaeth arno, aflan fydd efe; ei aflendid sydd etto arno.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 5:3Neu pan gyffyrddo âg aflendid dyn, pa aflendid bynnag iddo, yr hwn y bydd efe aflan o’i blegid, a’r peth yn guddiedig rhagddo; pan gaffo wybod, yna euog yw.
Leviticus 5:17¶ Ac os pecha enaid, a gwneuthur yn erbyn gorchymynion yr Arglwydd, ddim o’r hyn ni ddylid eu gwneuthur; er na wyddai, etto euog fydd, a’i anwiredd a ddwg.
Leviticus 15:31Felly y neillduwch blant Israel oddi wrth eu haflendid, fel na byddant feirw yn eu haflendid, pan halogant fy mhabell yr hon sydd yn eu mysg.
Leviticus 22:3Dywed wrthynt, Pwy bynnag o’ch holl hiliogaeth, trwy eich cenhedlaethau a nesao at y pethau cyssegredig a gyssegro meibion Israel i’r Arglwydd, a’i aflendid arno; torrir ymaith yr enaid hwnnw oddi ger fy mron: myfi yw yr Arglwydd.
Numbers 8:7Ac fel hyn y gwnei iddynt i’w glanhâu; taenella arnynt ddwfr puredigaeth, a gwnant i’r ellyn fyned dros eu holl gnawd, a golchant eu gwisgoedd, ac felly ymlanhânt.
Numbers 15:30¶ Ond y dyn a wnel bechod mewn rhyfyg, o brïodor, neu o ddïeithr; cablu yr Arglwydd y mae: torrer ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl.