The Bible Software
Llyfr Numeri · Beibl (1620)

Llyfr Numeri 19

1Y gyfraith pa fodd yr arferid ef wrth buro yr aflan. Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,

2Dyma ddeddf y gyfraith a orchymynodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, am ddwyn o honynt attat anner goch berffeith-gwbl, yr hon ni byddo anaf arni, ac nid aeth iau arni.

3A rhoddwch hi at Eleazar yr offeiriad: a phared efe ei dwyn hi o’r tu allan i’r gwersyll; a lladded un hi ger ei fron ef.

4A chymmered Eleazar yr offeiriad beth o’i gwaed hi ar ei fys, a thaenelled o’i gwaed hi ar gyfer wyneb pabell y cyfarfod saith waith.

5A llosged un yr anner yn ei olwg ef: ei chroen, a’i chig, a’i gwaed, ynghyd â’i biswail, a lysg efe.

6A chymmered yr offeiriad goed cedr, ac isop, ac ysgarlad; a bwried i ganol llosgfa yr anner.

7A golched yr offeiriad ei wisgoedd, troched hefyd ei gnawd mewn dwfr, ac wedi hynny deued i’r gwersyll; ac aflan fydd yr offeiriad hyd yr hwyr.

8Felly golched yr hwn a’i llosgo hi ei ddillad mewn dwfr, a golched hefyd ei gnawd mewn dwfr; ac aflan fydd hyd yr hwyr.

9A chasgled un glân ludw yr anner, a gosoded o’r tu allan i’r gwersyll mewn lle glân; a bydded y’nghadw i gynnulleidfa meibion Israel, yn ddwfr neillduaeth: pech-aberth yw.

10A golched yr hwn a gasglo ludw yr anner, ei ddillad; aflan fydd hyd yr hwyr: a bydd hyn i feibion Israel, ac i’r dïeithr a ymdeithio yn eu mysg hwynt, yn ddeddf dragywyddol.

11¶ A gyffyrddo â chorph marw dyn, aflan fydd saith niwrnod.

12Ymlanhâed trwy y dwfr hwnnw y trydydd dydd, a’r seithfed dydd glân fydd: ac os y trydydd dydd nid ymlanhâ efe, yna ni bydd efe lân y seithfed dydd.

13Pob un a gyffyrddo â chorph marw dyn fyddo wedi marw, ac nid ymlanhao, sydd yn halogi tabernacl yr Arglwydd; a thorrir ymaith yr enaid hwnnw oddi wrth Israel: am na thaenellwyd dwfr neillduaeth arno, aflan fydd efe; ei aflendid sydd etto arno.

14Dyma y gyfraith, pan fyddo marw dyn mewn pabell: pob un a ddelo i’r babell, a phob un a fyddo yn y babell, fydd aflan saith niwrnod.

15A phob llestr agored ni byddo cadach wedi ei rwymo arno, aflan yw efe.

16Pob un hefyd a gyffyrddo, ar wyneb y maes, âg un wedi ei ladd â chleddyf, neu âg un marw, neu âg asgwrn dyn, neu â bedd, a fydd aflan saith niwrnod.

17Cymmerant dros yr aflan o ludw llosg yr offrwm dros bechod; a rhodder atto ddwfr rhedegog mewn llestr;

18A chymmered isop, a golched un dihalogedig ef mewn dwfr, a thaenelled ar y babell, ac ar yr holl lestri, ac ar yr holl ddynion oedd yno, ac ar yr hwn a gyffyrddodd âg asgwrn, neu un wedi ei ladd, neu un wedi marw, neu fedd:

19A thaenelled y glân ar yr aflan y trydydd dydd, a’r seithfed dydd; ac ymlanhâed efe y seithfed dydd, a golched ei ddillad, ymolched mewn dwfr, a glân fydd yn yr hwyr.

20Ond y gwr a haloger, ac nid ymlanhao, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg y gynnulleidfa: canys efe a halogodd gyssegr yr Arglwydd, ni thaenellwyd arno ddwfr y neillduaeth; aflan yw efe.

21A bydd iddynt yn ddeddf dragywyddol, bod i’r hwn a daenello ddwfr y neillduaeth, olchi ei ddillad; a’r hwn a gyffyrddo â dwfr y neillduaeth, a fydd aflan hyd yr hwyr.

22A’r hyn oll a gyffyrddo yr aflan âg ef, fydd aflan: a’r dyn a gyffyrddo â hynny, fydd aflan hyd yr hwyr.

← Llyfr Numeri 18Read In The App, Free →Llyfr Numeri 20 →

Study Llyfr Numeri 19

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536