Llyfr Numeri 20:22
¶ A meibion Israel, sef yr holl gynnulleidfa, a deithiasant o Cades, ac a ddaethant i fynydd Hor.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
21Felly Edom a naccaodd roddi ffordd i Israel trwy ei fro: am hynny Israel a drodd oddi wrtho ef.
23A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron ym mynydd Hor, wrth derfyn tir Edom, gan ddywedyd,
Cross References
Numbers 13:26¶ A myned a wnaethant, a dyfod at Moses ac at Aaron, ac at holl gynnulleidfa meibion Israel, i Cades, yn anialwch Paran; a dygasant yn eu hoi air iddynt, ac i’r holl gynnulleidfa, ac a ddangosasant iddynt ffrwyth y tir.
Numbers 20:14¶ A Moses a anfonodd genhadon o Cades at frenhin Edom, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Israel dy frawd; Ti a wyddost yr holl flinder a gawsom ni:
Numbers 21:4¶ A hwy a aethant o fynydd Hor, ar hyd ffordd y môr coch, i amgylchu tir Edom: a chyfyng ydoedd ar enaid y bobl, o herwydd y ffordd.
Numbers 33:37A chychwynasant o Cades, a gwersyllasant ym mynydd Hor, yng nghwrr tir Edom.
Ezekiel 47:19A'r ystlys deau tua'r deau, o Tamar hyd ddyfroedd cynnen Cades, yr afon hyd y môr mawr. A dyma yr ystlys ddeau tua Theman.