Llyfr Numeri 21:4
¶ A hwy a aethant o fynydd Hor, ar hyd ffordd y môr coch, i amgylchu tir Edom: a chyfyng ydoedd ar enaid y bobl, o herwydd y ffordd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 6:9¶ A Moses a lefarodd felly wrth feibion Israel: ond ni wrandawsant ar Moses, gan gyfyngdra yspryd, a chan gaethiwed caled.
Numbers 20:18A dywedodd Edom wrtho, Na thyred heibio i mi, rhag i mi ddyfod â’r cleddyf i’th gyfarfod.
Numbers 20:27A gwnaeth Moses megis y gorchymynodd yr Arglwydd: a hwy a aethant i fynu i fynydd Hor, yng ngŵydd yr holl gynnulleidfa.
Numbers 32:9Canys aethant i fynu hyd ddyffryn Escol, a gwelsant y tir; a digalonnasant feibion Israel rhag myned i’r tir a roddasai yr Arglwydd iddynt.
Deuteronomy 1:40Trowch chwithau, ac ewch i’r anialwch ar hyd ffordd y môr coch.
Judges 11:18Yna hwy a gerddasant yn yr anial¬wch, ac a amgylchynasant wlad Edom, a gwlad Moab; ac a ddaethant o du codiad haul i wlad Moab, ac a wersyllasant tu hwnt i Arnon; ac ni ddaethant o fewn terfyn Moab: canys Arnon oedd derfyn Moab. º