Llyfr Numeri 21:5
A llefarodd y bobl yn erbyn Duw, ac yn erbyn Moses, Paham y dygasoch ni o’r Aipht, i farw yn yr anialwch? canys nid oes na bara na dwfr; a ffiaidd yw gan ein henaid y bara gwael hwn.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 14:11A dywedasant wrth Moses, Ai am nad oedd beddau yn yr Aipht, y dygaist ni i farw yn yr anialwch? Paham y gwnaethost fel hyn â ni, gan ein dwyn allan o’r Aipht?
Exodus 16:2A holl gynnulleidfa meibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses ac Aaron, yn yr anialwch.
Exodus 16:7Y bore hefyd y cewch weled gogoniant yr Arglwydd; am iddo glywed eich tuchan chwi yn erbyn yr Arglwydd: a pha beth ydym ni, i chwi i duchan i’n herbyn?
Exodus 16:31A thŷ Israel, a alwasant ei enw ef Manna: ac yr oedd efe fel had coriander, yn wỳn, a’i flas fel afrllad o fêl.
Numbers 11:1Duw yn rhoddi soflieir yn ei ddigllonedd yn Cibroth-Hattaafah. A’r bobl, fel tuchanwyr, oeddynt flin y’nghlustiau yr Arglwydd: a chlywodd yr Arglwydd hyn; a’i ddig a ennynodd; a thân yr Arglwydd a gyneuodd yn eu mysg hwynt, ac a ysodd gwrr y gwersyll.
Numbers 11:20Ond hyd fis o ddyddiau, hyd oni ddêl allan o’ch ffroenau, a’i fod yn ffiaidd gennych: am i chwi ddirmygu yr Arglwydd yr hwn sydd yn eich plith, ac wylo o honoch yn ei ŵydd ef, gan ddywedyd, Paham y daethom allan o’r Aipht?