Llyfr Numeri 22:23
A’r asen a welodd angel yr Arglwydd yn sefyll ar y ffordd, a’i gleddyf yn noeth yn ei law: a chiliodd yr asen allan o’r ffordd, ac a aeth i’r maes: a tharawodd Balaam yr asen, i’w throi i’r ffordd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
24Ac angel yr Arglwydd a safodd ar lwybr y gwinllannoedd, a magwyr o’r ddeutu.
Cross References
Joshua 5:13¶ A phan oedd Josua wrth Jericho, yna efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele wr yn sefyll gyferbyn âg ef, a’i gleddyf noeth yn ei law. A Josua a aeth atto ef, ac a ddywedodd wrtho, Ai gyd â ni yr ydwyt ti, ai gyd â’n gwrthwynebwyr?
1 Chronicles 21:16A Dafydd a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu angel yr ARGLWYDD yn sefylli rhwng y ddaear a’r nefoedd, a’i gleddyf noeth yn ei law wedi ei estyn tua Jerw¬salem. A syrthiodd Dafydd a’r henuriaid, y rhai oedd wedi ymwisgo mewn sachliain, ar eu hwynebau. º
Daniel 10:7A mi Daniel yn unig a welais y weledigaeth; canys y dynion y rhai oedd gyda mi ni welsant y weledigaeth; eithr syrthiodd arnynt ddychryn mawr, fel y ffoesant i ymguddio.
1 Corinthians 1:27Eithr Duw a etholodd ffôl bethau’r byd, fel y gwaradwyddai’r doethion; a gwan bethau’r byd a etholodd Duw, fel y gwaradwyddai’r pethau cedyrn;
Jude 1:11Gwae hwynt-hwy! oblegid hwy a gerddasant yn ffordd Cain, ac a'u collwyd trwy dwyll gwobr Balaam, ac a'u difethwyd yng ngwrthddywediad Core. 1: