The Bible Software
Llyfr Numeri · Beibl (1620)

Llyfr Numeri 22

1Balac yn ei groesawu ef. A meibion Israel a gychwynasant, ac a wersyllasant yn rhosydd Moab, am yr Iorddonen a Jericho.

2¶ A gwelodd Balac mab Sippor yr hyn oll a wnaethai Israel i’r Amoriaid.

3ac ofnodd Moab rhag y bobl yn fawr; canys llawer oedd: a bu gyfyng ar Moab o achos meibion Israel.

4¶ A dywedodd Moab wrth henuriaid Midian, Y gynnulleidfa hon yn awr a lyfant ein holl amgylchoedd, fel y llyf yr ŷch wellt y maes. A Balac mab Sippor oedd frenhin ar Moab yn yr amser hwnnw.

5Ac efe a anfonodd genhadau at Balaam mab Beor, i Pethor, (yr hon sydd wrth afon tir meibion ei bobl,) i’w gyrchu ef; gan ddywedyd, Wele, bobl a ddaeth allan o’r Aipht: wele, y maent yn cuddio wyneb y ddaear; ac y maent yn aros ar fy nghyfer i.

6Yr awr hon, gan hynny, tyred, attolwg, melldithia i mi y bobl yma; canys cryfach ydynt na mi: ond odid mi allwn ei daro ef, a’u gyrru hwynt o’r tir: canys mi a wn mai bendigedig fydd yr hwn a fendithiech di, a melldigedig fydd yr hwn a felldithiech.

7A henuriaid Moab, a henuriaid Midian, a aethant, a gwobr dewiniaeth yn eu dwylaw: daethant hefyd at Balaam, a dywedasant iddo eiriau Balac.

8A dywedodd yntau wrthynt, Llettŷwch yma heno; a rhoddaf i chwi atteb megis y llefaro yr Arglwydd wrthyf. A thywysogion Moab a arhosasant gyd â Balaam.

9A daeth Duw at Balaam, ac a ddywedodd, Pwy yw y dynion hyn sydd gyd â thi?

10A dywedodd Balaam wrth Dduw, Balac mab Sippor, brenhin Moab, a ddanfonodd attaf, gan ddywedyd,

11Wele bobl wedi dyfod allan o’r Aipht, ac yn gorchuddio wyneb y ddaear: yr awr hon tyred, rhega hwynt i mi; felly ond odid y gallaf ryfela â hwynt, a’u gyrru allan.

12A dywedodd Duw wrth Balaam, Na ddos gyd â hwynt; na felldithia y bobl: canys bendigedig ydynt.

13A Balaam a gododd y bore, ac a ddywedodd wrth dywysogion Balac, Ewch i’ch gwlad: oblegid yr Arglwydd a naccaodd adael i mi fyned gyd â chwi.

14A thywysogion Moab a godasant, ac a ddaethant at Balac; ac a ddywedasant, Naccaodd Balaam ddyfod gyd â ni.

15¶ A Balac a anfonodd eilwaith fwy o dywysogion, anrhydeddusach na’r rhai hyn.

16A hwy a ddaethant at Balaam; ac a ddywedasant wrtho, Fel hyn y dywed Balac mab Sippor; Attolwg, na luddier di rhag dyfod attaf:

17Canys gan anrhydeddu y’th anrhydeddaf yn fawr; a’r hyn oll a ddywedech wrthyf, a wnaf: tyred dithau, attolwg, rhega i mi y bobl hyn.

18A Balaam a attebodd ac a ddywedodd wrth weision Balac, Pe rhoddai Balac i mi arian ac aur lonaid ei dŷ, ni allwn fyned dros air yr Arglwydd fy Nuw, i wneuthur na bychan na mawr.

19Ond, attolwg, yn awr, arhoswch chwithau yma y nos hon; fel y caffwyf wybod beth a ddywedo yr Arglwydd wrthyf yn ychwaneg.

20A daeth Duw at Balaam liw nos, a dywedodd wrtho, Os i’th gyrchu di y daeth y dynion hyn, cyfod, dos gyd â hwynt: ac er hynny y peth a lefarwyf wrthyt, hynny a wnei di.

21Yna y cododd Balaam yn fore, ac a gyfrwyodd ei asen, ac a aeth gyd â thywysogion Moab.

22¶ A dig Duw a ennynodd, am iddo ef fyned: ac angel yr Arglwydd a safodd ar y ffordd i’w wrthwynebu ef; ac efe yn marchogaeth ar ei asen, a’i ddau langc gyd âg ef.

23A’r asen a welodd angel yr Arglwydd yn sefyll ar y ffordd, a’i gleddyf yn noeth yn ei law: a chiliodd yr asen allan o’r ffordd, ac a aeth i’r maes: a tharawodd Balaam yr asen, i’w throi i’r ffordd.

24Ac angel yr Arglwydd a safodd ar lwybr y gwinllannoedd, a magwyr o’r ddeutu.

25Pan welodd yr asen angel yr Arglwydd, yna hi a ymwasgodd at y fagwyr; ac a wasgodd droed Balaam wrth y fagwyr: ac efe a’i tarawodd hi eilwaith.

26Ac angel yr Arglwydd a aeth ym mhellach; ac a safodd mewn lle cyfyng, lle nid oedd ffordd i gilio tu a’r tu dehau na’r tu aswy.

27A gwelodd yr asen angel yr Arglwydd; ac a orweddodd dan Balaam: yna yr ennynodd dig Balaam, ac efe a darawodd yr asen â ffon.

28A’r Arglwydd a agorodd safn yr asen; a hi a ddywedodd wnh Balaam, Beth a wneuthum i ti, pan darewaist fi y tair gwaith hyn?

29A dywedodd Balaam wrth yr asen, Am i ti fy siommi. O na byddai gleddyf yn fy llaw; canys yn awr y’th laddwn.

30A dywedodd yr asen wrth Balaam, Onid myfi yw dy asen, yr hon y marchogaist arnaf er pan ydwyf eiddot ti, hyd y dydd hwn? gan arfer a arferais i wneuthur i ti fel hyn? Ac efe a ddywedodd, Na ddo.

31A’r Arglwydd a agorodd lygaid Balaam; ac efe a welodd angel yr Arglwydd yn sefyll ar y ffordd, a’i gleddyf noeth yn ei law: ac efe a ogwyddodd ei ben, ac a ymgrymmodd ar ei wyneb.

32A dywedodd angel yr Arglwydd wrtho, Paham y tarewaist dy asen y tair gwaith hyn? Wele, mi a ddeuthum allan yn wrthwynebydd i ti: canys cyfeiliornus yw y ffordd hon yn fy ngolwg.

33A’r asen a’m gwelodd; ac a giliodd rhagof y tair gwaith hyn: oni buasai iddi gilio rhagof, dïau yn awr y lladdaswn di, ac a’i gadawswn hi yn fyw.

34A Balaam a ddywedodd wrth angel yr Arglwydd, Pechais; oblegid ni wyddwn dy fod di yn sefyll ar y ffordd yn fy erbyn: ac yr awr hon, os drwg yw yn dy olwg, dychwelaf adref.

35A dywedodd angel yr Arglwydd wrth Balaam, Dos gyd â’r dynion; a’r gair a lefarwyf wrthyt, hynny yn unig a leferi. Felly Balaam a aeth gyd â thywysogion Balac.

36¶ A chlybu Balac ddyfod Balaam: ac efe a aeth i’w gyfarfod ef i ddinas Moab; yr hon sydd ar ardal Arnon, yr hon sydd ar gwrr eithaf y terfyn.

37A dywedodd Balac wrth Balaam, Onid gan anfon yr anfonais attat i’th gyrchu? paham na ddeuit ti attaf? Oni allwn i dy wneuthur di yn anrhydeddus?

38A dywedodd Balaam wrth Balac, Wele, mi a ddeuthum attat: gan allu a allaf fi lefaru dim yr awr hon? y gair a osodo Duw yn fy ngenau, hwnnw a lefaraf fi.

39A Balaam a aeth gyd â Balac; a hwy a ddaethant i Gaer-Husoth.

40A lladdodd Balac wartheg a defaid; ac a anfonodd ran i Balaam, ac i’r tywysogion oedd gyd âg ef.

41A’r bore Balac a gymmerodd Balaam, ac a aeth âg ef i fynu i uchelfeydd Baal; fel y gwelai oddi yno gwrr eithaf y bobl.

← Llyfr Numeri 21Read In The App, Free →Llyfr Numeri 23 →

Study Llyfr Numeri 22

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536