Llyfr Numeri 22:5
Ac efe a anfonodd genhadau at Balaam mab Beor, i Pethor, (yr hon sydd wrth afon tir meibion ei bobl,) i’w gyrchu ef; gan ddywedyd, Wele, bobl a ddaeth allan o’r Aipht: wele, y maent yn cuddio wyneb y ddaear; ac y maent yn aros ar fy nghyfer i.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 13:16Gwnaf hefyd dy had di fel llwch y ddaear; megis os dichon gwr rifo llwch y ddaear, yna y rhifir dy had dithau.
Exodus 10:15Canys toisant wyneb yr holl dir, a thywyllodd y wlad; a hwy a ysasant holl lysiau y ddaear, a holl ffrwythau y coed, yr hyn a weddillasai y cenllysg: ac ni adawyd dim gwyrddlesni ar goed, nac ar lysiau y maes, o fewn holl wlad yr Aipht.
Numbers 31:8Brenhinoedd Midian hefyd a laddasant hwy, gyd â’u lladdedigion eraill: sef Efi, a Recem, a Sur, a Hur, a Reba, pùm brenhin Midian: Balaam hefyd mab Beor a laddasant hwy â’r cleddyf.
Deuteronomy 23:5Etto yr Arglwydd dy Dduw ni fynnodd wrandaw ar Balaam: ond trodd yr Arglwydd dy Dduw y felldith yn fendith i ti; canys hoffodd yr Arglwydd dy Dduw dydi.
Joshua 24:9Yna Balac mab Sippor brenhin Moab, a gyfododd, ac a ryfelodd yn erbyn Israel; ac a anfonodd, ac a alwodd am Balaam mab Beor, i’ch melldigo chwi.
Nehemiah 13:2Am na chyfarfuasent â meibion Israel â bara ac â dwfr, eithr cyflogasent Balaam yn eu herbyn i’w melltithio hwynt: eto ein DUW ni a drodd y felltith yn fendith.