Llyfr Numeri 31:8
Brenhinoedd Midian hefyd a laddasant hwy, gyd â’u lladdedigion eraill: sef Efi, a Recem, a Sur, a Hur, a Reba, pùm brenhin Midian: Balaam hefyd mab Beor a laddasant hwy â’r cleddyf.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Numbers 22:5Ac efe a anfonodd genhadau at Balaam mab Beor, i Pethor, (yr hon sydd wrth afon tir meibion ei bobl,) i’w gyrchu ef; gan ddywedyd, Wele, bobl a ddaeth allan o’r Aipht: wele, y maent yn cuddio wyneb y ddaear; ac y maent yn aros ar fy nghyfer i.
Numbers 23:10Pwy a rif lwch Jacob, a rhifedi pedwaredd ran Israel? Marw a wnelwyf o farwolaeth yr uniawn, a bydded fy niwedd fel yr eiddo yntau.
Numbers 25:15Ac enw y wraig o Midian a laddwyd, oedd Cozbi, merch Sur: pen-cenedl o dŷ mawr ym Midian oedd hwn.
Joshua 13:21A holl ddinasoedd y gwastad edd, a holl frenhiniaeth Sehon brenhin yr Amoriaid, yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon, yr hwn a ddarfuasai i Moses ei daro, gyd â thywysogion Midian, Efi, a Recem, a Sur, a Hur, a Reba, duciaid Sehon, y rhai oedd yn preswylio yn y wlad.
Proverbs 11:3Perffeithrwydd yr uniawn a’u tywys hwynt: ond trawsedd yr anffyddloniaid a’u difetha hwynt.