Llyfr Numeri 14:35
Myfi yr Arglwydd a leferais, dïau y gwnaf hyn i’r holl gynnulleidfa ddrygionus yma, sydd wedi ymgynnull i’m herbyn i: yn y diffaethwch hwn y darfyddant, ac yno y byddant feirw.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 23:21Gwylia rhagddo, a gwrando ar ei lais ef; na chyffroa ef: canys ni ddïoddef eich anwiredd: oblegid y mae fy enw ynddo ef.
Numbers 23:19Nid dyn yw Duw, i ddywedyd celwydd; na mab dyn, i edifarhâu: a ddywedodd efe, ac nis cyflawna? a lefarodd efe, ac oni chywira?
Joshua 5:6Canys deugain mlynedd y rhodiasai meibion Israel yn yr anialwch, nes darfod yr holl bobl o’r rhyfelwyr a ddaethent o’r Aipht, y rhai ni wrandawsent ar lef yr Arglwydd: y rhai y tyngasai yr Arglwydd wrthynt, na ddangosai efe iddynt y wlad a dyngasai yr Arglwydd wrth eu tadau y rhoddai efe i ni; sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.
Ezekiel 20:36Fel yr ymddadleuais a'ch tadau yn anialwch tir yr Aifft, felly yr ymddadleuaf fi chwithau, medd yr ARGLWYDD DDUW.
1 Corinthians 10:11A’r pethau hyn oll a ddigwyddasant yn siamplau iddynt hwy; ac a ysgrifennwyd yn rhybudd i ninnau, ar y rhai y daeth terfynau yr oesoedd.