The Bible Software
Llyfr Numeri · Beibl (1620)

Llyfr Numeri 23

1Dammeg Balaam. A dywedodd Balaam wrth Balac, Adeilada i mi yma saith allor; i darpara i mi yma saith o fustych, a saith o hyrddod.

2A gwnaeth Balac megis ag y dywedodd Balaam. Ac offrymmodd Balac a Balaam fustach a hwrdd ar bob allor.

3A dywedodd Balaam wrth Balac, Saf di wrth dy boeth-offrwm; myfi a âf oddi yma: ond odid daw yr Arglwydd i’m cyfarfod; a mynegaf i ti pa air a ddangoso efe i mi. Ac efe a aeth i le uchel.

4A chyfarfu Duw â Balaam; a dywedodd Balaam wrtho, Darperais saith allor, ac aberthais fustach a hwrdd ar bob allor.

5A gosododd yr Arglwydd air y’ngenau Balaam; ac a ddywedodd, Dychwel at Balac, a dywed fel hyn.

6Ac efe a ddychwelodd atto. Ac wele, efe a holl dywysogion Moab yn sefyll wrth ei boeth-offrwm.

7Ac efe a gymmerodd ei ddammeg, ac a ddywedodd, O Siria y cyrchodd Balac brenhin Moab fyfi, o fynyddoedd y dwyrain, gan ddywedyd, Tyred, melldithia i mi Jacob; tyred, a ffieiddia Israel.

8Pa fodd y rhegaf yr hwn ni regodd Duw? a pha fodd y ffieiddiaf yr hwn ni ffieiddiodd yr Arglwydd?

9Canys o ben y creigiau y gwelaf ef, ac o’r bryniau yr edrychaf arno; wele, bobl yn preswylio eu hun, ac heb eu cyfrif ynghyd â’r cenhedloedd.

10Pwy a rif lwch Jacob, a rhifedi pedwaredd ran Israel? Marw a wnelwyf o farwolaeth yr uniawn, a bydded fy niwedd fel yr eiddo yntau.

11A dywedodd Balac wrth Balaam, Beth a wnaethost i mi? I regi fy ngelynion y’th gymmerais; ac wele, gan fendithio ti a’ u bendithiaist.

12Ac efe a attebodd ac a ddywedodd, Onid yr hyn a osododd yr Arglwydd yn fy ngenau, sydd raid i mi edrych ar ei ddywedyd?

13A dywedodd Balac wrtho ef, Tyred, attolwg, gyd â myfi i le arall, lle y gwelych hwynt: oddi yno y cei weled eu cwrr eithaf hwynt yn unig, ac ni chei eu gweled hwynt i gyd: rhega dithau hwynt i mi oddi yno.

14¶ Ac efe a’i dug ef i faes amlwg, i ben bryn; ac a adeiladodd saith allor, ac a offrymmodd fustach a hwrdd ar bob allor.

15Ac a ddywedodd wrth Balac, Saf yma wrth dy boeth-offrwm, a mi a âf accw i gyfarfod â’r Arglwydd.

16A chyfarfu yr Arglwydd â Balaam; ac a osododd air yn ei enau ef, ac a ddywedodd, Dychwel at Balac, a dywed fel hyn.

17Ac efe a ddaeth atto. Ac wele efe yn sefyll wrth ei boeth-offrwm, a thywysogion Moab gyd âg ef. A dywedodd Balac wrtho, Beth a ddywedodd yr Arglwydd?

18Yna y cymmerodd efe ei ddammeg, ac a ddywedodd, Cyfod, Balac, a gwrando; mab Sippor, clustymwrando â mi.

19Nid dyn yw Duw, i ddywedyd celwydd; na mab dyn, i edifarhâu: a ddywedodd efe, ac nis cyflawna? a lefarodd efe, ac oni chywira?

20Wele, cymmerais arnaf fendithio; a bendithiodd efe; ac ni throaf fi hynny yn ei ol.

21Ni wêl efe anwiredd yn Jacob, ac ni wêl drawsedd yn Israel; yr Arglwydd ei Dduw sydd gyd âg ef, ac y mae utgorn-floedd brenhin yn eu mysg hwynt.

22Duw a’u dug hwynt allan o’r Aipht; megis nerth unicorn sydd iddo.

23Canys nid oes swyn yn erbyn Jacob, na dewiniaeth yn erbyn Israel: y pryd hwn y dywedir am Jacob, ac am Israel, Beth a wnaeth Duw!

24Wele, y bobl a gyfyd fel llew mawr, ac fel llew ieuangc yr ymgyfyd: ni orwedd nes bwytta o’r ysglyfaeth, ac yfed gwaed y lladdedigion.

25¶ A dywedodd Balac wrth Balaam, Gan regu na rega ef mwy; gan fendithio na fendithia ef chwaith.

26Yna yr attebodd Balaam, ac a ddywedodd wrth Balac, Oni fynegais i ti, gan ddywedyd, Yr hyn oll a lefaro yr Arglwydd, hynny a wnaf fi?

27¶ A dywedodd Balac wrth Balaam, Tyred, attolwg, mi a’th ddygaf i le arall: ond odid boddlawn fydd gan Dduw i ti ei regu ef i mi oddi yno.

28A Balac a ddug Balaam i ben Peor, yr hwn sydd yn edrych tu a’r diffaethwch.

29A dywedodd Balaam wrth Ba lac, Adeilada i mi yma saith allor; a darpara i mi yma saith bustach, a saith hwrdd.

30A gwnaeth Balac megis y dywedodd Balaam; ac a offrymmodd fustach a hwrdd ar bob allor.

← Llyfr Numeri 22Read In The App, Free →Llyfr Numeri 24 →

Study Llyfr Numeri 23

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536