Llyfr Numeri 23:21
Ni wêl efe anwiredd yn Jacob, ac ni wêl drawsedd yn Israel; yr Arglwydd ei Dduw sydd gyd âg ef, ac y mae utgorn-floedd brenhin yn eu mysg hwynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
20Wele, cymmerais arnaf fendithio; a bendithiodd efe; ac ni throaf fi hynny yn ei ol.
22Duw a’u dug hwynt allan o’r Aipht; megis nerth unicorn sydd iddo.
Cross References
Exodus 13:21A’r Arglwydd oedd yn myned o’u blaen hwynt y dydd mewn colofn o niwl, i’w harwain ar y ffordd; a’r nos mewn colofn o dân, i oleuo iddynt; fel y gallent fyned ddydd a nos.
Exodus 33:14Yntau a ddywedodd, Fy wyneb a gaiff fyned gyd â thi, a rhoddaf orphwysdra i ti.
Leviticus 9:24A daeth tân allan oddi ger bron yr Arglwydd, ac a ysodd y poeth-offrwm, a’r gwer, ar yr allor: a gwelodd yr holl bobl; a gwaeddasant, a chwympasant ar eu hwynebau.
Numbers 16:3Ac ymgasglasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron, ac a ddywedasant wrthynt, Gormod i chwi hyn; canys y mae yr holl gynnulleidfa yn sanctaidd bob un o honynt, ac y mae yr Arglwydd yn eu mysg: paham yr ymgodwch goruwch cynnulleidfa yr Arglwydd?
Judges 6:13A Gedeon a ddywedodd wrtho, O fy arglwydd, od yw yr ARGLWYDD gyda ni, paham y digwyddodd hyn oll i ni? a pha le y mae ei holl ryfeddodau ef, y rhai a fynegodd ein tadau i ni, gan ddywedyd, Oni ddug yr ARGLWYDD ni i fyny o’r Aifft? Ond yn awr yr AR¬GLWYDD a’n gwrthododd ni, ac a’n rhoddodd i law y Midianiaid.
2 Chronicles 13:12Ac wele, Duw sydd ben gyda ni, a’i offeiriaid ef ag utgyrn soniarus i utganu yn eich erbyn chwi. O feibion Israel, nac ymleddwch yn erbyn ARGLWYDD DDUW eich tadau; canys ni lwyddwch chwi.