Llyfr Numeri 28:2
Gorchymyn i feibion Israel, a dywed wrthynt, Gwyliwch am offrymmu i mi fy offrwm, a’m bara i’m hebyrth tanllyd, o arogl peraidd yn eu tymmor.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
1yn nydd y blaen-ffrwythau. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
Cross References
Exodus 23:15Gwyl y bara croyw a gedwi: saith niwrnod y bwyttêi fara croyw, fel y gorchymynais i ti, ar yr amser gosodedig o fis Abib: canys ynddo y daethost allan o’r Aipht: ac nac ymddangosed neb ger fy mron yn waglaw:
Leviticus 1:9Ond ei berfedd a’i draed a ylch efe mewn dwfr: a’r offeiriad a lysg y cwbl ar yr allor, yn boeth-offrwm, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
Leviticus 1:17Hollted ef, a’i esgyll hefyd; etto na wahaned ef: a llosged yr offeiriad ef ar yr coed a fyddant ar y tân. Dyma boethoffrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
Leviticus 21:6Sanctaidd fyddant i’w Duw, ac na halogant enw eu Duw: o herwydd offrymmu y maent ebyrth tanllyd yr Arglwydd, a bara eu Duw; am hynny byddant sanctaidd.
Numbers 9:2Cadwed meibion Israel y Pasc hefyd yn ei dymmor.
Numbers 9:13A’r gwr a fyddo glân, ac heb fod mewn taith, ac a beidio â chadw y Pasc, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl, am na offrymmodd offrwm yr Arglwydd yn ei dymmor: ei bechod a ddwg y gwr hwnnw.