Llyfr Numeri 28
1yn nydd y blaen-ffrwythau. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
2Gorchymyn i feibion Israel, a dywed wrthynt, Gwyliwch am offrymmu i mi fy offrwm, a’m bara i’m hebyrth tanllyd, o arogl peraidd yn eu tymmor.
3A dywed wrthynt, Dyma yr aberth tanllyd a offrymmwch i’r Arglwydd. Dau oen blwyddiaid perffeith-gwbl, bob dydd, yn boeth-offrwm gwastadol.
4Un oen a offrymmi di y bore, a’r oen arall a offrymmi di yn yr hwyr;
5A degfed ran ephah o beilliaid yn fwyd-offrwm, wedi ei gymmysgu trwy bedwaredd ran hin o olew coethedig.
6Dyma y poeth-offrwm gwastadol a wnaed ym mynydd Sinai, yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd.
7A’i ddïod-offrwm fydd bedwaredd ran hin gyd â phob oen: pâr dywallt y ddïod gref yn ddïod-offrwm i’r Arglwydd, yn y cyssegr.
8Yr ail oen a offrymmi yn yr hwyr: megis bwyd-offrwrn y bore, a’i ddïod-offrwm, yr offrymmi ef, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
9¶ Ac ar y dydd Sabbath, dau oen blwyddiaid, perffeith-gwbl, a dwy ddegfed ran o beilliaid yn fwyd-offrwm, wedi ei gymmysgu trwy olew, a’i ddïod-offrwm.
10Dyma boeth-offrwm pob Sabbath, heb law y poeth-offrwm gwastadol, a’i ddïod-offrwm.
11¶ Ac ar ddechreu eich misoedd yr offrymmwch, yn boeth-offrwm i’r Arglwydd, ddau o fustych ieuaingc, ac un hwrdd, a saith oen blwyddiaid, perffeith-gwbl;
12A thair degfed ran o beilliaid, yn fwyd-offrwm, wedi ei gymmysgu trwy olew, gyd â phob bustach; a dwy ddegfed ran o beilliaid, yn fwyd-offrwm, wedi ei gymmysgu trwy olew, gyd â phob hwrdd;
13A phob yn ddegfed ran o beilliaid, yn fwyd-offrwm, wedi ei gymmysgu trwy olew, gyd â phob oen, yn offrwm poeth o arogl peraidd, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd.
14A’u dïod-offrwm fydd hanner hin gyd â bustach, a thrydedd ran hin gyd â hwrdd, a phedwaredd ran hin o win gyd âg oen. Dyma boeth-offrwm mis yn ei fis, trwy fisoedd y flwyddyn.
15Ac un bwch geifr fydd yn bech-aberth i’r Arglwydd: heb law y gwastadol boeth-offrwm yr offrymmir ef, a’i ddïod-offrwm.
16¶ Ac yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, y bydd Pasc yr Arglwydd.
17Ac ar y pymthegfed dydd o’r mis hwn y bydd yr wyl: saith niwrnod bwyttêir bara croyw.
18Ar y dydd cyntaf y bydd cymmanfa sanctaidd: na wnewch ddim caeth-waith ynddo.
19Ond offrymmwch yn aberth tanllyd, ac yn boeth-offrwm i’r Arglwydd, ddau o fustych ieuaingc, ac un hwrdd, a saith oen blwyddiaid: byddant gennych yn berffeith-gwbl.
20Eu bwyd-offrwm hefyd fydd o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew: tair degfed ran gyd â bustach, a dwy ddegfed ran gyd â hwrdd, a offrymmwch chwi;
21Bob yn ddegfed ran yr offrymmwch gyd â phob oen, o’r saith oen:
22Ac un bwch yn bech-aberth, i wneuthur cymmod drosoch.
23Heb law poeth-offrwm y bore, yr hwn sydd boeth-offrwm gwastadol, yr offrymmwch hyn.
24Fel hyn yr offrymmwch ar bob dydd o’r saith niwrnod, fwyd-aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd: heb law y poeth-offrwm gwastadol yr offrymmir ef, a’i ddïod-offrwm.
25Ac ar y seithfed dydd cymmanfa sanctaidd fydd i chwi: dim caeth-waith nis gwnewch.
26¶ Ac ar ddydd eich blaen-ffrwythau, pan offrymmoch fwyd-offrwm newydd i’r Arglwydd, wedi eich wythnosau, cymmanfa sanctaidd fydd i chwi: dim caeth-waith nis gwnewch.
27Ond offrymmwch ddau fustach ieuaingc, un hwrdd, a saith oen blwyddiaid, yn boeth-offrwm, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
28A bydded eu bwyd-offrwm o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew; tair degfed ran gyd â phob bustach, dwy ddegfed ran gyd â phob hwrdd;
29Bob yn ddegfed ran gyd â phob oen, o’r saith oen:
30Un bwch geifr, i wneuthur cymmod drosoch.
31Heb law y poeth-offrwm gwastadol, a’i fwyd-offrwm, yr offrymmwch hyn, (byddant gennych yn berffeith-gwbl,) ynghyd â’u dïod-offrwm.