Llyfr Numeri 31
1Yr offrwm ewyllysgar y drysordy yr Arglwydd. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
2Dïal feibion Israel ar y Midianiaid: wedi hynny ti a gesglir at dy bobl.
3A llefarodd Moses wrth y bobl, gan ddywedyd, Arfogwch o honoch wŷr i’r rhyfel, ac ânt yn erbyn Midian, i roddi dïal yr Arglwydd ar Midian.
4Mil o bob llwyth, o holl lwythau Israel, a anfonwch i’r rhyfel.
5A rhoddasant o filoedd Israel fil o bob llwyth, sef deuddeng mil, o rai wedi eu harfogi i’r rhyfel.
6Ac anfonodd Moses hwynt i’r rhyfel, mil o bob llwyth: hwynt a Phinees mab Eleazar yr offeiriad, a anfonodd efe i’r rhyfel, â dodrefn y cyssegr, a’r udgyrn i udganu yn ei law.
7A hwy a ryfelasant yn erbyn Midian, megis y gorchymynodd yr Arglwydd wrth Moses; ac a laddasant bob gwrryw.
8Brenhinoedd Midian hefyd a laddasant hwy, gyd â’u lladdedigion eraill: sef Efi, a Recem, a Sur, a Hur, a Reba, pùm brenhin Midian: Balaam hefyd mab Beor a laddasant hwy â’r cleddyf.
9Meibion Israel a ddaliasant hefyd yn garcharorion wragedd Midian, a’u plant; ac a yspeiliasant eu holl anifeiliaid hwynt, a’u holl ddâ hwynt, a’u holl olud hwynt.
10Eu holl ddinasoedd hefyd trwy eu trigfannau, a’u holl dyrau, a losgasant â thân.
11A chymmerasant yr holl yspail, a’r holl gaffaeliad, o ddyn ac o anifail.
12Ac a ddygasant at Moses, ac at Eleazar yr offeiriad, ac at gynnulleidfa meibion Israel, y carcharorion, a’r caffaeliad, a’r yspail, i’r gwersyll, yn rhosydd Moab, y rhai ydynt wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho.
13¶ Yna Moses ac Eleazar yr offeiriad, a holl bennaduriaid y gynnulleidfa, a aethant i’w cyfarfod hwynt o’r tu allan i’r gwersyll.
14A digiodd Moses wrth swyddogion y fyddin, capteniaid y miloedd, a chapteniaid y cantoedd, y rhai a ddaethant o frwydr y rhyfel.
15A dywedodd Moses wrthynt, A adawsoch chwi bob benyw yn fyw?
16Wele, hwynt, trwy air Balaam, a barasant i feibion Israel wneuthur camwedd yn erbyn yr Arglwydd yn achos Peor; a bu pla y’nghynnulleidfa yr Arglwydd.
17Am hynny lleddwch yn awr bob gwrryw o blentyn; a lleddwch bob benyw a fu iddi a wnaeth â gwr, trwy orwedd gyd âg ef.
18A phob plentyn o’r benywaid y rhai ni bu iddynt a wnaethant â gwr, cedwch yn fyw i chwi.
19Ac arhoswch chwithau o’r tu allan i’r gwersyll saith niwrnod: pob un a laddodd ddyn, a phob un a gyffyrddodd wrth laddedig, ymlanhêwch y trydydd dydd, a’r seithfed dydd, chwi a’ch carcharorion.
20Pob gwisg hefyd, a phob dodrefnyn croen, a phob gwaith o flew geifr, a phob llestr pren, a lanhêwch chwi.
21¶ A dywedodd Eleazar yr offeiriad wrth y rhyfelwyr y rhai a aethant i’r rhyfel, Dyma ddeddf y gyfraith a orchymynodd yr Arglwydd wrth Moses:
22Yn unig yr aur, a’r arian, y pres, yr haiarn, yr alcam, a’r plwm;
23Pob dim a ddïoddefo dân, a dynnwch trwy y tân, a glân fydd; ac etto efe a lanhêir a’r dwfr neillduaeth: a’r hyn oll ni ddïoddefo dân, tynnwch trwy y dwfr yn unig.
24A golchwch eich gwisgoedd ar y seithfed dydd, a glân fyddwch; ac wedi hynny deuwch i’r gwersyll.
25¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
26Cymmer nifer yr yspail a gaed, o ddyn ac o anifail, ti ac Eleazar yr offeiriad, a phennau-cenedl y gynnulleidfa:
27A rhanna y caffaeliad yn ddwy ran; rhwng y rhyfelwyr a aethant i’r filwriaeth, a’r holl gynnulleidfa.
28A chyfod deyrnged i’r Arglwydd -gan y rhyfelwyr y rhai a aethant allan i’r filwriaeth; un enaid o bob pùm cant o’r dynion, ac o’r eidionau, ac o’r asynod, ac o’r defaid.
29Cymmerwch hyn o’u hanner hwynt, a dyro i Eleazar yr offeiriad, yn ddyrchafael-offrwm yr Arglwydd.
30Ac o hanner meibion Israel y cymmeri un rhan o bob deg a deugain, o’r dynion, o’r eidionau, o’r asynod, ac o’r defaid, ac o bob anifail, a dod hwynt i’r Lefiaid, y rhai ydynt yn cadw cadwraeth tabernacl yr Arglwydd.
31A gwnaeth Moses ac Eleazar yr offeiriad megis y gorchymynodd yr Arglwydd wrth Moses.
32A’r caffaeliad, sef gweddill yr yspail yr hon a ddygasai pobl y filwriaeth, oedd chwe chàn mil a phymtheg a thri ugain o filoedd o ddefaid,
33A deuddeg a thri ugain mil o eidionau,
34Ac un fil a thri ugain o asynod,
35Ac o ddynion, o fenywaid ni buasai iddynt a wnaethant â gwr, trwy orwedd gyd âg ef, ddeuddeng mil ar hugain o eneidiau.
36A’r hanner, sef rhan y rhai a aethant i’r rhyfel, oedd, o rifedi defaid, dri chàn mil a dwy ar bymtheg ar hugain o filoedd, a phùm cant;
37A theyrnged yr Arglwydd o’r defaid oedd chwe chant a phymtheg a thri ugain.
38A’r eidionau oedd un fil ar bymtheg ar hugain; a’u teyrnged i’r Arglwydd oedd ddeuddeg a thri ugain.
39A’r asynod oedd ddeng mil ar hugain a phùm cant; a’u teyrnged i’r Arglwydd oedd un a thri ugain.
40A’r dynion oedd un fil ar bymtheg; a’u teyrnged i’r Arglwydd oedd ddeuddeg enaid ar hugain.
41A Moses a roddodd deyrnged offrwm dyrchafael yr Arglwydd i Eleazar yr offeiriad, megis y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.
42Ac o ran meibion Israel, yr hon a rannasai Moses oddi wrth y milwyr,
43Sef rhan y gynnulleidfa o’r defaid, oedd dri chàn mil a dwy ar bymtheg ar hugain o filoedd, a phùm cant;
44Ac o’r eidionau, un fil ar bymtheg ar hugain;
45Ac o’r asynod, deng mil ar hugain a phùm cant;
46Ac o’r dynion, un fil ar bymtheg.
47Ië, cymmerodd Moses o hanner meibion Israel, un rhan o bob deg a deugain, o’r dynion, ac o’r anifeiliaid, ac a’u rhoddes hwynt i’r Lefiaid oedd yn cadw cadwraeth tabernacl yr Arglwydd; megis y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.
48¶ A’r swyddogion, y rhai oedd ar filoedd y llu, a ddaethant at Moses, sef capteniaid y miloedd a chapteniaid y cantoedd:
49A dywedasant wrth Moses, Dy weision a gymmerasant nifer y gwŷr o ryfel a roddaist dan ein dwylaw ni; ac nid oes wr yn eisieu o honom.
50Am hynny yr ydym yn offrymmu offrwm i’r Arglwydd, pob un yr hyn a gafodd, yn offerynau aur, yn gadwynau, yn freichledau, yn fodrwyau, yn glust-dlysau, ac yn dorchau, i wneuthur cymmod dros ein heneidiau ger bron yr Arglwydd.
51A chymmerodd Moses ac Eleazar yr offeiriad yr aur ganddynt, y dodrefn gweithgar oll.
52Ac yr ydoedd holl aur yr offrwm dyrchafael, yr hwn a offrymmasant i’r Arglwydd, oddi wrth gapteniaid y miloedd, ac oddi wrth gapteniaid y cantoedd, yn un fil ar bymtheg saith gant a deg a deugain o siclau.
53(Yspeiliasai y gwŷr o ryfel bob un iddo ei hun.)
54A chymmerodd Moses ac Eleazar yr offeiriad yr aur gan gapteniaid y miloedd a’r cantoedd, ac a’i dygasant i babell y cyfarfod, yn goffadwriaeth dros feibion Israel ger bron yr Arglwydd.