Llyfr Obadeia 1:17
Ond ar fynydd Seion y bydd ymwared, ac y bydd sancteiddrwydd; a thy^ Jacob a berchenogant eu perchenogaeth hwynt. 1:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Isaiah 4:3A bydd, am yr hwn a adewir yn Seion, ac a weddillir yn Jerwsalem, y dywedir wrtho, O sanct; sef pob un a’r a ysgrifennwyd ymhlith y rhai byw yn Jerwsalem:
Isaiah 46:13Neseais fy nghyfiawnder; ni bydd bell, a’m hiachawdwriaeth nid erys: rhoddaf hefyd iachawdwriaeth yn Seion i’m gogoniant Israel.
Isaiah 65:9Eithr dygaf had allan o Jacob, ac o Jwda un a etifeddo fy mynyddoedd: a’m hetholedigion a’i hetifeddant, a’m gweision a drigant yno. º
Jeremiah 44:14Fel na byddo un a ddihango, nac a adawer o weddill Jwda, y rhai a aethant i ymdeithio yno i wlad yr Aifft, i ddy¬chwelyd i wlad Jwda, yr hon y mae eu hewyllys ar ddychwelyd i aros ynddi; canys ni ddychwel ond y rhai a ddihangant. º
Jeremiah 46:28O fy ngwas Jacob, nac ofna, medd yr ARGLWYDD; canys yr ydwyf fi gyda thi; canys mi a wnaf ddiben ar yr holl genhedloedd y rhai y’th fwriais atynt; ond ni wnaf fi ddiben arnat ti; eithr mi a’th gosbaf di mewn barn, ac ni’th dorraf ymaith yn llwyr.
Ezekiel 36:12Ie, gwnaf i ddynion rodio amoch, sef fy mhobl Israel; a hwy a'th etifeddant di, a byddi yn etifeddiaeth iddynt, ac m ychwanegi eu gwneuthur hwy yn amddi-faid mwy.