Llyfr y Diarhebion 25:2
Anrhydedd DUW yw dirgelu peth: ond anrhydedd brenin yw chwilio peth allan.
Beibl (1620)
In The King James Version
It is the glory of God to conceal a thing: but the honour of kings is to search out a matter.
In Context
1Dyma hefyd ddiarhebion Solomon, y rhai a gasglodd gwŷr Heseceia brenin Jwda.
3Y nefoedd am uchder, y ddaear am ddyfnder, a chalon brenhinoedd, ni ellir eu chwilio.
Read all of Llyfr y Diarhebion 25
Cross References
Deuteronomy 29:29Y dirgeledigaethau sydd eiddo yr Arglwydd ein Duw, a’r pethau amlwg a roddwyd i ni, ac i’n plant hyd byth, fel y gwnelom holl eiriau y gyfraith hon.
2 Samuel 14:19A’r brenin a ddywedodd, A ydyw llaw Joab gyda thi yn hyn oll? A’r wraig a atebodd ac a ddywedodd, Fel mai byw dy enaid di, fy arglwydd frenin, nid gwiw troi ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy oddi wrth yr hyn oll a ddywedodd fy arglwydd frenin: canys dy was Joab a orchmynnodd i mi, ac a osododd yr holl eiriau hyn yng ngenau dy lawforwyn:
1 Kings 3:16Yna dwy wraig o buteiniaid a ddaethant at y brenin, ac a safasant ger ei fron ef.
1 Kings 4:29A Duw a roddodd ddoethineb i Solomon, a deall mawr iawn, a helaethdra calon, fel y tywod sydd ar fin y môr.
Ezra 4:19A mi a osodais orchymyn, a chwiliwyd; a chafwyd fod y ddinas hon er ys talm yn ymddyrchafu yn erbyn brenhinoedd, a gwneuthur ynddi anufudd-dod a gwrthryfel.
Job 11:7A elli di wrth chwilio gael gafael ar DDUW? a elli di gael yr Hollalluog hyd berffeithrwydd?