The Bible Software
Llyfr y Diarhebion · Beibl (1620)

Llyfr y Diarhebion 25

1Dyma hefyd ddiarhebion Solomon, y rhai a gasglodd gwŷr Heseceia brenin Jwda.

2Anrhydedd DUW yw dirgelu peth: ond anrhydedd brenin yw chwilio peth allan.

3Y nefoedd am uchder, y ddaear am ddyfnder, a chalon brenhinoedd, ni ellir eu chwilio.

4Tyn yr amhuredd oddi wrth yr arian, a daw i’r gof arian lestr.

5Tyn yr annuwiol o olwg y brenin, a’i orseddfa ef a gadarnheir trwy gyfiawnder.

6Nac ymogonedda gerbron y brenin; ac na saf yn lle gwŷr mawr.

7Canys gwell i ti ddywedyd wrthyt, Tyred yma i fyny, na’th fwrw yn is gerbron pendefig yr hwn a welodd dy lygaid.

8Na ddos allan i gynhennu ar frys: rhag na wypych beth a wnelych yn ei diwedd, wedi dy gywilyddio gan dy gymydog.

9Ymresyma â’th gymydog ei hun; ond na ddatguddia gyfrinach i arall:

10Rhag i’r neb a fyddo yn gwrando ddwyn gwarth arnat ti; ac i’th gywilydd na thro ymaith.

11Gair a ddyweder mewn amser sydd megis afalau aur mewn gwaith arian yn cerfiedig.

12Ceryddwr doeth i’r glust a wrandawo, sydd fel anwyldlws euraid, a gwisg o aur rhagorol.

13Megis oerder eira yn amser cynhaeaf, yw cennad ffyddlon i’r rhai a’i gyrrant: canys efe a lawenycha enaid ei feistriaid.

14Y neb a ymffrostio o achos gau rodd, sydd gyffelyb i gymylau a gwynt heb law.

15Trwy hirymaros y bodlonir pendefig: a thafod esmwyth a dyr asgwrn.

16Pan gaffech fêl, bwyta a’th wasanaetho: rhag wedi dy lenwi ohono, i ti ei chwydu ef.

17Cadw dy droed allan o dŷ dy gymydog: rhag iddo flino arnat, a’th gasáu.

18Y neb a ddygo gamdystiolaeth yn erbyn ei gymydog, sydd megis gordd, a chleddyf, a saeth lem.

19Hyder ar ffalswr yn riydd cyfyngder, sydd megis dant wedi ei dorri, a throed wedi tyrfu.

20Fel yr hwn a ddygo ymaith wisg yn amser oerfel, ac fel finegr ar nitr, felly y mae yr hwn sydd ya canu caniadau i galon drist.

21Os dy elyn a newyna, portha ef â bara; ac os sycheda, dod iddo ddiod i’w hyfed:

22Canys marwor a bentyrri ar ei ben ef; a’r ARGLWYDD a dâl i ti.

23Gwynt y gogledd a yrr y glaw ymaith: felly y gyr wynepryd dicllon dafod athrotgar.

24Gwell yw trigo mewn congl yn nen tŷ, na chyda gwraig anynad mewn tŷ eang.

25Fel dyfroedd oerion i enaid sychedig, yw newyddion da o wlad bell.

26Gŵr cyfiawn wedi syrthio i lawr gerbron y drygionus, sydd megis ffynnon wedi ei chymysgu â gofer budr.

27Nid da bwyta llawer o fâl: ac felly chwilio eu hanrhydedd, nid anrhydrdd yw.

28Y neb ni byddo ganddo atal ar ei ysbryd ei hun, sydd megis dinas ddrylliog heb gaer.

← Llyfr y Diarhebion 24Read In The App, Free →Llyfr y Diarhebion 26 →

Study Llyfr y Diarhebion 25

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031